Pro14: Caeredin 52-14 Scarlets

Duran van der Merwe yn croesi Image copyright SNS
Image caption Duran van der Merwe yn croesi i Gaeredin

Fe wnaeth y Scarlets, oedd a nifer o'u prif chwaraewyr yn absennol, ddioddef crasfa yn Yr Alban yn y Pro14.

Llwyddodd Caeredin, sy'n ceisio gorffen yn y pedwar uchaf, sicrhau pwynt bonws o fewn 24 munud.

Fe darodd y Scalets yn ôl cyn yr egwyl gyda Tom Varndell and Dan Jones yn croesi.

Ond doedd ymdrechion y tîm cartref ddim ar ben wrth i Van der Merwe hawlio ei ail gais, ac yna croesodd Luke Crosbie, Mark Bennett a Nathan Fowles.

Roedd hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac wedi gwneud 13 o newidiadau o'r tîm wnaeth guro Glasgow, wrth i'r rhanbarth baratoi i wynebu Leinster yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ddydd Sadwrn nesa.