Dedfrydu dyn ar ôl marwolaeth seiclwr o Gymru ym Menorca

Phillip Rasmussen Image copyright IQE PLC
Image caption Cafodd Phillip Rasmussen ei ladd ddiwrnod cyntaf Ebrill

Mae dyn o'r Unol Daleithiau wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio am yfed a gyrru ar ôl i Gymro gael ei ladd mewn gwrthdrawiad ym Menorca.

Roedd Phillip J Rasmussen, prif swyddog cyllid a chyfarwyddwr gyda chwmni technoleg gwybodaeth IQE, yn 47 oed ac yn byw ym mhentref Aberporth, Ceredigion.

Clywodd llys ar yr ynys fod Mr Rasmussen ar ei feic pan gafodd ei daro o'r cefn.

Fe wnaeth Bryan Leeds, 25 oed o Efrog Newydd, bledio'n euog i'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Cafodd ei ddedfrydu i flwyddyn o garchar wedi ei gohirio, ac mae'n rhydd i adael yr ynys.

Roedd Mr Rasmussen, tad i dri o blant, ar ei wyliau ac yn seiclo o bentref Alcaufar i Sant Lluis pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Cafodd Leeds ei arestio ar ôl marwolaeth Mr Rasmussen ar 1 Ebrill, a'i wahardd rhag dychwelyd i'r Unol Daleithiau.

Dywed yr heddlu fod Leeds wedi rhoi prawf anadl o 35microgram am 100 mililitr o anadl. Hwn yw'r terfyn yng Nghymru a Lloegr, ond y terfyn yn Sbaen yw 25.

Fe wnaeth o hefyd fethu prawf cyffuriau, ond fe ddangosodd dderbynneb feddygol am dabledi amffetamin oedd, meddai, yn rhan o driniaeth feddygol.

Cafodd yr achos ei gynnal ddydd Iau.