Adnodd digidol i athrawon yn dod i ben wedi 'adborth'

Disgyblion yn defnyddio cyfrifiaduron Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r llywodraeth wedi penderfynu peidio adnewyddu cytundeb Hwb+ yn sgil "adborth" am y llwyfan digidol

Fe gostiodd adnodd digidol i ysgolion, sydd yn dod i ben eleni, dros £10 miliwn yn ôl ffigyrau'r llywodraeth.

Ym mis Tachwedd cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams na fyddai'r cytundeb ar gyfer Hwb+ yn cael ei adnewyddu yn dilyn "adborth" am y teclyn.

Dywedodd un arbenigwr bod rhai ysgolion o'r farn ei fod yn hen ffasiwn ac yn anodd ei ddefnyddio.

Yn ôl Llywodraeth Cymru roedd y cytundeb ar gyfer Hwb+ wedi cynnig gwerth am arian.

Colli gwybodaeth

Roedd yna bryderon yn 2015 ynglŷn â faint o ysgolion oedd yn defnyddio'r adnodd.

Mae Plaid Cymru'n dweud eu bod nhw'n poeni y bydd ysgolion yn colli gwybodaeth os nad yw'n cael ei drosglwyddo i system wahanol.

Mae Hwb+ yn un o sawl adnodd digidol sydd ar gael i ysgolion trwy blatfform Hwb.

Fe fydd Hwb a'r adnoddau eraill yn parhau i fod ar gael i ysgolion ar ôl i Hwb+ ddod i ben.

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru'n dangos mai gwerth cytundeb Hwb+ o Fedi 2012 i Awst 2018 yw £9.6 miliwn.

Yn 2015, talwyd £661,000 mewn grantiau i 18 ysgol gafodd eu clustnodi fel canolfannau rhagoriaeth ar gyfer Hwb+ ac i'r pedwar corff addysg ranbarthol er mwyn cefnogi mwy o ysgolion i'w fabwysiadu.

Fydd yna ddim proses dendro newydd pan ddaw'r cytundeb i ben yn Awst 2018.

Yn ôl Gareth Morgan, sy'n ymgynghorydd ar dechnoleg mewn addysg, roedd Hwb+ yn "dechnoleg heriol iawn i'w ddefnyddio'n effeithiol yn yr ystafell ddosbarth".

"Fel ry'n ni'n gwybod, mae technolegau'n newid yn gyflym iawn. Mae'n bosib, ar y pryd yn 2011/12, bod y platfform dysgu yma'n ymddangos i Lywodraeth Cymru fel ateb addas i ysgolion Cymru," meddai.

Ond "unwaith dechreuodd athrawon ei ddefnyddio, roedd nifer yn teimlo ei fod yn drwsgl, hen-ffasiwn a'n anodd ei ddefnyddio".

"Fydden i'n tybio y byddai nifer yn dadlau bod gwario cymaint o arian a hynny ar dechnoleg oedd yn cael ei ddefnyddio gan nifer bach o ysgolion, o bosib ddim yn werth am arian."

'Araf a glitchy'

Cafodd Ysgol Mair yn Rhyl £30,000 fel un o ganolfannau rhagoriaeth Hwb+.

Mae Rhian Owen yn gyfrifol am dechnoleg gwybodaeth yn yr ysgol ac mae'n dweud eu bod wedi defnyddio Hwb+ yn rheolaidd yn yr ysgol i ddechrau ond fe aeth yn arafach a llai dibynadwy.

Dywedodd hi fod yr arian ychwanegol wedi helpu'r ysgol i ddatblygu'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth trwy dalu am gyfarpar a hyfforddiant.

"Roedd Hwb+ yn ddefnyddiol iawn ar y pryd ond wedyn roedd e'n glitchy iawn a'n annibynadwy," meddai.

Mae 'na rybudd i ysgolion y gallai unrhyw ddata sydd ar Hwb+ gael ei golli os nad yw'n cael ei drosglwyddo i blatfform arall cyn 25 Mai.

Image copyright Getty Images
Image caption Pryder Plaid Cymru yw y gallai gwybodaeth gael ei golli wrth i'r adnodd digidol ddod i ben

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Llyr Gruffydd: "Mae gen i bryderon mawr am y 4,600,000 o ffeiliau sydd gan ysgolion ar system Hwb+ ar hyn o bryd.

"Fy nealltwriaeth i yw, os nad yw ysgolion yn trosglwyddo'r wybodaeth draw i'r system newydd, yna fe fydd e i gyd yn cael ei golli wythnosau'n unig cyn i blant wneud arholiadau.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru esbonio pam y maen nhw'n troi eu cefn ar y platfform ar ôl buddsoddi mwy na £10 miliwn dros y blynyddoedd diwethaf."

Gwrando ar adborth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi'r cytundeb am dair blynedd yn 2012 ac wedi ei ymestyn yn 2015 "yn dilyn adolygiad annibynnol gwerth am arian".

"Ers hynny mae technoleg wedi symud ymlaen ac felly hefyd anghenion ein hathrawon a dysgwyr," meddai.

"Rydyn ni wedi gwrando ar beth mae athrawon wedi ei ddweud am Hwb+ ac yn seiliedig ar yr adborth yna, rydyn ni wedi adeiladu ystod o adnoddau dysgu ar-lein modern a hawdd i'w defnyddio sy'n cynnig offer rhad ac am ddim fel Office 365 a chyn hir ar Hwb, Google for Education."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol