Hywel Dda yn ffafrio codi ysbyty newydd yn y gorllewin

Ysbytai Llwynhelyg, Glangwili a Thywysog Philip
Image caption Mae'r opsiynau'n cynnig newidiadau i ysbytai Llwynhelyg, Glangwili a Thywysog Philip

Mae Bwrdd iechyd Hywel Dda yn ffafrio adeiladu ysbyty newydd yn y gorllewin - ond bydd yn rhaid sicrhau cyllid ar ei gyfer a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn i hynny ddigwydd.

Ddydd Iau fe wnaeth aelodau'r bwrdd gwrdd yn Hwlffordd i drafod tri opsiwn gwahanol - y tri yn golygu codi ysbyty newydd - fyddai'n golygu ad-drefnu sylweddol a phellgyrhaeddol i wasanaethau iechyd yn yr ardal.

Ond mae ymgyrchwyr lleol a gwleidyddion eisoes wedi beirniadu'r penderfyniad.

Mae'r ad-drefnu yn dilyn rhybuddion fod gwasanaethau iechyd yn yr ardal yn anghynaladwy a bod 'na risg y gallai rhai ddymchwel o ganlyniad i gynnydd yn y galw am ofal ac oherwydd prinder difrifol o staff.

Fe fyddai pob un o'r opsiynau yn gweld Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn colli ei statws fel ysbyty cyffredinol 24 awr y dydd a byddai Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin hefyd yn colli gwasanaethau allweddol - gan gynnwys yr uned frys.

Image caption Bu aelodau'r bwrdd yn trafod yr opsiyna umewn cyfarfod yn Hwlffordd ddydd Iau

Y gred yw y bydda'r ysbyty newydd yn cael ei godi rhywle rhwng Aberth yn Sir Benfro a Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Phil Kloer, cyfarwyddwr Clinigol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y byddai'n rhaid i'r bwrdd sicrhau cynllun busnes manwl a chyllid cyn bwrw mlaen gyda'r cynllun.

Fe fydd ymgynghoriad ar y cynllun yn para am 12 wythnos, gan orffen ar 12 Gorffennaf.

Yn ôl penaethiaid, does dim un opsiwn ar hyn o bryd yn cael ei ffafrio ac fe allai'r cynlluniau newid wedi i'r cyhoedd gael cyfle i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad.

Mae'r bwrdd hefyd wedi ymrwymo i symud rhagor o wasanaethau o ysbytai i gymunedau a darparu gofal - lle bo modd - yng nghartrefi cleifion.

Image caption Roedd yr oriel gyhoeddus yn llawn wrth i aelodau o'r cyhoedd wrando ar y drafodaeth yn Hwlffordd

Dywedodd prif weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, ar ddechrau'r cyfarfod eu bod yn ceisio gosod stori bositif am ddyfodol gofal iechyd yn y rhanbarth.

"Mae hwn yn ddechrau trafodaeth bwysig, ni all y statws quo barhau," meddai.

"Bydd lleihau nifer y prif ysbytai yn golygu fod llai o rotas meddygol i'w llenni, ac yn ei gwneud yn haws i ddenu clinigwyr i ddod yma i weithio, fe fydd hefyd yn golygu rhestrau aros llai..."

Ond mae'r argymhellion eisoes wedi eu beirniadu gan wleidyddion lleol, gyda AS Preseli Penfro Stephen Crabb yn dweud fod y penderfyniad yn creu mwy o "ansicrwydd a phryder i bobl leol".

'Angen codi llais'

Dywedodd Lee Waters, AC Llanelli, na fyddai'n derbyn unrhyw gynnig i israddio statws Ysbyty Cyffredinol Tywysog Philip yn Llanelli i fod yn ysbyty cymunedol.

Dywedodd: "Yn sicr mae'n rhaid eu bod yn gwybod bod hwn yn gynllun afrealistig yn y lle cyntaf a fydd yn achosi pryder diangen."

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Jonathan Edwards AS, Adam Price AC a Simon Thomas AC o Blaid Cymru nad oedd yna unrhyw addewidion o arian yn bodoli ar gyfer y cynllun.

"Mae angen i drigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro godi llais o blaid eu gwasanaethau lleol.

"Os nad yw'r statws quo yn opsiwn, beth yw opsiynau'r bwrdd iechyd pan nad yw addewidion ar gyfer buddsoddiad yn bodoli?"

Y newidiadau

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo, beth bynnag fydd canlyniad yr ymgynghoriad, i fuddsoddi mwy mewn gofal yn y gymuned ac yng nghartrefi cleifion.

Fel rhan o hyn bydd rhwydwaith o 10 "canolfan gymunedol" yn cael eu creu ar draws y rhanbarth.

Bydd y bwrdd iechyd yn ymgynghori'n benodol ar dri opsiwn i ad-drefnu gwasanaethau ysbytai'r ardal.

Ym mhob opsiwn bydd Bronglais yn Aberystwyth yn parhau'n ysbyty cyffredinol.

Mae ysbytai cymunedol yn cynnig llawer yn llai o wasanaethau nag ysbytai cyffredinol.

Opsiwn A

  • Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw rhywle rhwng Arberth a Sanclêr;
  • Byddai ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol.

Opsiwn B

  • Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw rhywle rhwng Arberth a Sanclêr;
  • Ysbyty Tywysog Philip i barhau'n ysbyty cyffredinol;
  • Byddai ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol.

Opsiwn C

  • Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys yn unig - nid gofal wedi'i drefnu o flaen llaw - rhywle rhwng Arberth a Sanclêr;
  • Ysbyty Tywysog Philip i barhau'n ysbyty cyffredinol;
  • Ysbyty Glangwili'n troi'n ysbyty gofal wedi'i drefnu o flaen llaw yn unig;
  • Byddai Llwynhelyg yn cael ei hisraddio i ysbyty cymunedol.
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Dr Meinir Jones o'r bwrdd iechyd yn dweud nad yw hi'n bosib i'r status quo aros yr un peth

Dadl y bwrdd yw bod patrwm presennol gwasanaethau yn anaddas ar gyfer y dyfodol ac yn ei gwneud hi'n gynyddol anodd i gynnig gofal diogel ac effeithiol.

Heb newid, yn ôl penaethiaid, mae 'na risg y gallai cyfraddau goroesi ostwng.

Ond mae'n debygol y bydd 'na wrthwynebiad sylweddol i'r cynlluniau gan rai sydd eisoes yn dadlau y gallai symud gwasanaethau yn bellach oddi wrthyn nhw beryglu bywydau.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae Hywel Dda yn rhedeg gwasanaethau iechyd Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion - tua 385,000 o bobl.

Mae tua 150,000 o gleifion yn cael eu gweld pob wythnos yno, a nifer o'r rheiny ym mhedair prif ysbyty'r bwrdd iechyd - Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae'r bwrdd hefyd yn gyfrifol am saith ysbyty cymunedol, 41 o feddygfeydd a 46 o swyddfeydd deintydd.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Gareth Harries o Bont-iets, Sir Gâr, eisoes wedi gweld budd o ofal yn y cartref

Beth nesaf?

Dywedodd Hywel Dda ei fod wedi datblygu'r cynigion yn dilyn "sgwrs fawr" gyda'r cyhoedd, a bod meddygon a nyrsys wedi bod yn rhan fwy o'r broses na newidiadau yn y gorffennol.

Cafodd 25 o opsiynau eu datblygu'n wreiddiol, cyn cael ei dorri i naw, yna chwech, a nawr tri.

Bydd ymgynghoriad ar y tri opsiwn yn cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos, a gall y cyhoedd ymateb trwy'r post, ar y ffôn, e-bost, ar-lein, gwefannau cymdeithasol neu mewn saith digwyddiad cyhoeddus fydd yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth.

Bydd y farn yn cael ei gasglu a'i ystyried cyn i'r bwrdd iechyd wneud penderfyniad terfynol yn yr hydref.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol