Cyn-bencampwr byd yw gwrthwynebydd rownd gyntaf Jones

Jamie Jones Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Jamie Jones yn wynebu enillydd y gystadleuaeth yn 2005

Mae'r pedwar Cymro sy'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield wedi cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd gyntaf.

Mi fydd Jamie Jones yn wynebu Shaun Murphy - enillydd y gystadleuaeth yn 2005 - ar ôl curo Liang Wenbo o China 10-0 yn y rownd ragbrofol olaf.

Bydd Mark Williams yn chwarae'n erbyn Jimmy Robertson gyda Ryan Day'n herio Anthony McGill a Mathew Stevens yn erbyn Kyren Wilson.

Mae Stevens yn dawel hyderus ar ôl ennill o 10-2 yn erbyn Ken Doherty yn y rownd ragbrofol olaf.

Mae'r gystadleuaeth yn cychwyn am 10:00 ddydd Sadwrn.

Mark Selby yw'r pencampwr presennol ac fe fydd yn ceisio ennill y gystadleuaeth am y pedwerydd tro mewn pum mlynedd.

Pynciau Cysylltiedig