'Posib bod effaith cronfa wedi'i wanhau'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Posib bod effaith cronfa addysg wedi'i wanhau'

20 Ebrill 2018 Diweddarwyd 07:14 BST

Mae 80 o athrawon newydd wedi cael eu cyllido drwy grantiau i dorri maint dosbarthiadau, er gwaethaf pryder y gallai'r arian fod wedi cael ei ddefnyddio i leddfu pwysau ar gyllidebau ysgolion.

Fe ddaeth y grantiau o gronfa gwerth £36m gafodd ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2017 gan yr ysgrifennydd addysg, Kirsty Williams.

Tra bo Malachy Edwards o undeb NAHT yn croesawu'r cyllid, mae'n dweud ei bod yn bosib fod ei effaith wedi'i wanhau gan y pwysau cyffredinol ar gyllidebau ysgolion.