Cwpan Pencampwyr Ewrop: Leinster 38-16 Scarlets

Fergus Mcfadden yn sgorio i Leinster Image copyright Lorraine O'Sullivan

Mae'r Scarlets wedi methu'r cyfle i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop wedi iddyn nhw gael cweir gan Leinster yn Nulyn.

Llwyddodd y Gwyddelod i sgorio pum cais yn Stadiwm Aviva wrth iddyn nhw danlinellu eu goruchafiaeth dros y tîm o Lanelli.

Roedd hi'n 24-9 ar yr egwyl yn dilyn ceisiau gan James Ryan, Cian Healy a Fergus McFadden, gyda Johnny Sexton yn ychwanegu naw pwynt o'i giciau.

Ciciau cosb Leigh Halfpenny oedd yr unig bwyntiau gafodd y Scarlets yn yr hanner cyntaf.

Parhau'r un ffordd wnaeth pethau yn yr ail hanner, gyda Scott Fardy a Sexton yn ychwanegu rhagor o geisiau ac ymestyn y bwlch i 29 pwynt.

Llwyddodd Tadhg Beirne i sicrhau cais gysur i'r Scarlets yn y munud olaf, ond Leinster fydd yn mynd ymlaen i'r ffeinal yn Bilbao ar 12 Mai.

Pynciau Cysylltiedig