Pro14: Zebre 37-14 Gweilch

Adam Beard o'r Gweilch Image copyright Huw Evans Agency

Cafodd y Gweilch gweir oddi cartref yn Parma wrth i Zebre, sydd ar waelod yr adran, sgorio chwe chais yn eu herbyn.

Roedd yr Eidalwyr wedi sicrhau eu pwynt bonws erbyn yr egwyl yn dilyn ceisiau i George Biagi, Guilio Bisegni a dwy i Mattia Bellini.

Ar ddiwedd yr hanner llwyddodd y Gweilch i gael eu hunain ar y sgorfwrdd, gyda chais Sam Cross yn cael ei throsi gan Sam Davies.

Ond daeth rhagor o geisiau i Zebre yn yr ail hanner, gyda Bellini'n sicrhau trydedd a'r eilydd Gabriele di Guilio yn croesi, cyn i'r ymwelwyr gael cais gysur drwy Reuben Morgan-Williams.

Mae'r Gweilch eisoes yn saff o orffen yn y pumed safle yn Adran A y Pro14, gan olygu y bydd ganddyn nhw gêm ail gyfle i geisio cyrraedd Cwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.