Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Nottingham Forest

nottingham v caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd gam yn nes at ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl trechu Nottingham Forest nos Sadwrn, gan godi'n ôl i'r ail safle yn y Bencampwriaeth.

Sean Morrison ddaeth â'r gôl gyntaf i'r Adar Gleision yn ystod yr hanner cyntaf, ond fe lwyddodd Liam Bridcutt i unioni'r sgôr yn fuan yn yr ail hanner.

Daeth y gôl fuddugol i Gaerdydd gyda 16 munud yn weddill o'r gêm, wrth i Aron Gunnarsson rwydo'r bêl i'r tîm cartref.

Mae'r Adar Gleision bellach pwynt o flaen Fulham yn y tabl, ac fe fydd tîm Neil Warnock yn chwarae eu gêm sydd mewn llaw yn erbyn Derby nos Fawrth.

Pynciau Cysylltiedig