Dau wedi'u lladd yn dilyn gwrthdrawiad ger Dinbych

ffordd osgoi Image copyright Google
Image caption Roedd y ffordd osgoi'n parhau ar gau ddydd Sul

Mae'r heddlu'n dweud bod dau berson wedi eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi'r A525 ger Dinbych nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 23:00 wedi adroddiadau o wrthdrawiad difrifol.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod car Porsche Caymen glas yn rhan o'r gwrthdrawiad, a bod y ffordd yn parhau ar gau am beth amser ddydd Sul.

"Rydyn ni'n meddwl am deuluoedd a ffrindiau'r rheiny oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad ar yr adeg yma," meddai'r uwch-arolygydd Mark Pierce o Heddlu'r Gogledd.

"Rydyn ni'n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth neu allai fod â fideo dashcam i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod W051275."

Pynciau Cysylltiedig