Carwyn Jones wedi 'symud Cymru ymlaen'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Carwyn Jones wedi 'symud Cymru ymlaen'

22 Ebrill 2018 Diweddarwyd 17:55 BST

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas wedi dweud fod Carwyn Jones wedi "symud Cymru ymlaen" yn ystod ei gyfnod fel prif weinidog.

Fe gyhoeddodd Mr Jones ddydd Sadwrn y byddai'n camu o'r neilltu fel arweinydd y blaid Lafur erbyn yr hydref.

Cafodd yr Arglwydd Elis-Thomas, sydd bellach yn AC annibynnol, ei benodi i gabinet Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd.

Cyn hynny roedd Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd yn aelod o grŵp Plaid Cymru yn y Senedd.