Meurig Jones
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Angen penderfyniad' ar wneud y fagloriaeth yn orfodol

24 Ebrill 2018 Diweddarwyd 07:11 BST

Dyw Bagloriaeth Cymru ddim yn ddigon hawdd ei deall ac mae angen strwythur mwy syml i'r dyfodol, medd adroddiad newydd.

Cafodd ei chyflwyno gyntaf yn 2007 ond ar hyn o bryd dyw'r fagloriaeth ddim yn orfodol mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach.

Mae Meurig Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn dweud bod y fagloriaeth wedi ei chyflwyno "fel rhan o dyfiant yr ysgol" ac yn teimlo ei bod yn cynnig sgiliau gwerthfawr i ddisgyblion.

Er hynny mae'n dweud byddai yn dda cael "penderfyniad cadarn" gan y llywodraeth am wneud y cymhwyster yn orfodol neu beidio.