Brexit: Cytundeb rhwng Caerdydd a Llundain

brexit

Mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi dod i gytundeb yn yr anghydfod am 'gipio pwerau' o Fae Caerdydd ar ôl Brexit.

Wedi misoedd o drafod rhwng gweinidogion y ddwy lywodraeth, maen nhw wedi cytuno ar newidiadau i Fesur Ymadael yr UE.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, fod y cytundeb yn "un y gallwn ni weithio gyda fe ac sydd wedi golygu cymodi ar y ddwy ochr".

Ond mae Llywodraeth Yr Alban wedi gwrthod y cynnig diweddaraf gan ddweud y byddai'n "clymu dwylo" Senedd Yr Alban.

Angen cydsyniad

Roedd yr anghydfod yn ymwneud â beth fyddai'n digwydd yn y 64 o feysydd sydd wedi'u datganoli pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fel rhan o Fesur Ymadael yr UE (DU) - fydd yn trosglwyddo deddfau'r UE i'r DU gan osgoi gwagle cyfreithiol ar ôl Brexit - roedd Llywodraeth y DU wedi cynnig yn wreiddiol y dylai'r pwerau gael eu trosglwyddo i San Steffan yn hytrach nag i'r llywodraethau datganoledig.

Arweiniodd hynny at gyhuddiadau gan weinidogion Cymru a'r Alban o ymgais i "gipio pwerau".

Ym mis Chwefror dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi gwneud cynnig "sylweddol" a fyddai'n gweld mwyafrif y pwerau'n dychwelyd i Gaerdydd, Caeredin a Belfast ar ôl Brexit, gyda'r gweddill yn cael eu dal dros dro gan San Steffan.

Ar y pryd dywedodd gweinidogion Caerdydd nad oedd y cynnig yn mynd yn ddigon pell, ond mae'r ddwy lywodraeth bellach wedi dod i gytundeb ar gynnig gwell.

Mae'r newid yn golygu y bydd unrhyw newid i bwerau sy'n cael eu cadw yn San Steffan angen cydsyniad y deddfwriaethau datganoledig, ac ni fyddai'r pwerau'n cael eu cadw yn San Steffan am fwy na saith mlynedd.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd San Steffan wedi cyfeirio Mesur Parhad Cymru at Y Goruchaf Lys

'Mewn lle gwahanol'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford: "Mae hwn yn gytundeb y gallwn ni weithio gydag e ac sydd wedi golygu cymodi ar y ddwy ochr. "

"Ein nod gydol y trafodaethau oedd i warchod datganoli a sicrhau bod cyfreithiau a pholisi mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn parhau wedi'u datganoli, ac ry'n ni wedi cyflawni hynny.

"Ry'n ni wastad wedi cydnabod yr angen am fframwaith i'r DU gyfan pan na fydd rheolau'r UE yn berthnasol bellach.

"Roedd y mesur drafft gwreiddiol yn golygu fod pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli yn cael eu cipio'n ôl gan Lywodraeth y DU a dim ond gweinidogion yn Llundain fyddai â'r hawl i benderfynu pryd ac os y bydden nhw'n cael eu dychwelyd i'r seneddau datganoledig.

"Roedd hyn yn gwbl annerbyniol, ac yn mynd yn erbyn ewyllys pobl Cymru a bleidleisiodd mewn dau refferendwm dros ddatganoli.

Image caption Hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o geisio 'cipio grymoedd'

"Ry'n ni mewn lle gwahanol nawr. Mae Llundain wedi newid eu safbwynt fel bod pwerau a meysydd polisi yn aros yng Nghaerdydd oni bai eu bod wedi'u dynodi i gael eu cadw dros dro gan Lywodraeth y DU. Bydd y rhain mewn meysydd lle'r y'n ni gyd yn cytuno bod angen rheolau cyffredin i'r DU gyfan er mwyn gweithredu marchnad fewnol i'r DU.

"Ry'n ni'n croesawu parodrwydd Llundain i wrando ar ein pryderon a thrafod o ddifri. Mewn DU wedi'i datganoli mae angen i'r llywodraethau i gyd ddelio gyda'i gilydd yn gyfartal ac mae'r cytundeb hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir.

"Rhaid i hyn barhau wrth i ni baratoi i adael yr UE a rhan nesaf y trafodaethau gyda Brwsel."

Pe na fyddai cytundeb wedi digwydd, roedd Llywodraeth Cymru wedi pasio'r Mesur Parhad er mwyn ceisio gwarchod pwerau'r Cynulliad, a'r wythnos ddiwethaf fe wnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau eu bod yn cyfeirio'r ddeddf honno i'r Goruchaf Lys cyn y gallai ddod yn ddeddf.

Ond yn dilyn y newidiadau i Fesur Ymadael San Steffan, dywedodd gweinidogion Cymru y byddan nhw'n tynnu'r Mesur Parhad yn ôl, sy'n golygu na fydd angen brwydr yn y llysoedd.

'Bradychu Cymru'

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi beirniadu'r cytundeb yn hallt gan ddweud bod Llywodraeth Lafur Cymru "wedi bradychu Cymru" drwy ildio i'r Ceidwadwyr ar y Mesur Ymadael.

Wrth bwysleisio bod Llywodraeth yr Alban yn parhau i wrthwynebu'r Mesur Ymadael ar y sail y bydd Llywodraeth Prydain yn cyfyngu gallu'r senedd-dai datganoledig i ddeddfu mewn meysydd datganoledig am hyd at bum mlynedd dywedodd Ms Wood:"Drwy ildio i San Steffan ar Fesur Ymadael yr UE, mae'r Llywodraeth Lafur yn bradychu Cymru.

"Dyma enghraifft glir o San Steffan yn cipio pwerau ac yn tanseilio ewyllys pobl Cymru sydd wedi pleidleisio o blaid mwy o bwerau mewn dau refferendwm.

"Drwy daro bargen gyda'r Ceidwadwyr yn Llywodraeth Prydain, mae gweinidogion Llafur Cymru wedi'n hatgoffa unwaith eto o gred Llafur fod San Steffan yn uwchraddol i Gymru.

"Tra bod Llafur yn ildio, bydd Plaid Cymru yn parhau i herio San Steffan wrth iddynt geisio cipio'r pwerau hyn, a gwarchod democratiaeth Cymru pob cam o'r ffordd."

'Sicrwydd cyfreithiol'

Dywedodd David Melding AC ar ran Ceidwadwyr Cymru: "Dyma brawf o'r hyn all gael ei gyflawni pan mae gwleidyddion yn gweithio'n adeiladol er budd y genedl yn hytrach na budd plaid.

"Bydd hyn yn rhoi sicrwydd cyfreithiol i bawb tra'n cynyddu pwerau'r deddfwriaethau datganoledig a pharchu'r setliad datganoli.

"Yn fwy na dim gallwn nawr symud ymlaen i gytuno fframwaith i'r DU mewn rhai meysydd allweddol er mwyn gwarchod marchnad fewnol y DU.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol