Y Bencampwriaeth: Derby County 3-1 Caerdydd

caerdydd Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd cyn ymosodwr Caerdydd, Cameron Jerome, ddwy gôl i Derby County

Mae Caerdydd wedi methu'r cyfle i fynd bedwar pwynt yn glir o Fulham ar ôl colli oddi cartref i Derby County.

Aeth Caerdydd ar y blaen drwy gôl gan yr Albanwr, Callum Paterson, cyn i ddwy gôl gan Cameron Jerome ac un gan Matej Vydra roi'r fantais i Derby.

Mae'r Adar Gleision dal i fod un pwynt yn glir o Fulham, gyda dwy gêm yn weddill.

Roedd cryn drafod wedi bod cyn yr ornest ynglŷn â drwgdeimlad posib rhwng y ddau glwb yn dilyn helynt y penderfyniad i ohirio'r gêm oherwydd eira mis Mawrth.

Yn dilyn dechreuad araf i'r gêm, llwyddodd Paterson i roi Caerdydd ar y blaen wedi 27 munud gydag ergyd bwerus o groesiad Joe Bennett.

Dechreuodd y tîm cartref yr ail hanner yn llawer cryfach gyda chyn ymosodwr Caerdydd, Cameron Jerome yn unioni'r sgôr wedi 69 munud.

Dwy gôl hwyr gan Vydra ac un arall gan Jerome roddodd y fuddugoliaeth i Derby.

Bydd Caerdydd yn herio Hull City ddydd Sadwrn cyn wynebu Reading ar ddiwrnod olaf y tymor, gan wybod y byddai dwy fuddugoliaeth yn ddigon i sicrhau dyrchafiad.

Straeon perthnasol