Sefydlu sianel deledu TeliMôn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Sianel deledu yn 'gyfle i feithrin sgiliau pobl ifanc'

25 Ebrill 2018 Diweddarwyd 07:09 BST

Wrth i sianel deledu ddigidol newydd gael ei sefydlu ar Ynys Môn, mae cadeirydd y sianel yn gobeithio bydd y fenter gymunedol yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yr ardal.

Gobaith Vaughan Evans yw y bydd y sianel yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc gynhyrchu a chyflwyno rhaglenni eu hunain ar y sianel.