Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad â lori yn Abertawe

Cylchfan cyffordd 45 yr M4 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchfan cyffordd 45 yr M4 yn Ynysforgan

Mae dyn 71 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar gyffordd yr M4 yn Abertawe yn oriau mân fore Mercher.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng gar Kia Carens arian a'r lori ar gylchfan cyffordd 45 yn Ynysforgan am 00:25.

Fe gafodd gyrrwr y Kia ei gludo i Ysbyty Treforys gerllaw ble bu farw.

Dywedodd yr heddlu bod merch 17 oed hefyd yn teithio yn y car ar y pryd, ond nad oedd hi wedi'i hanafu.

Cafodd y ffordd ei chau am bum awr tra bo Heddlu De Cymru'n ymchwilio i'r digwyddiad, ac maen nhw'n apelio ar dystion i gysylltu â'r llu.

Pynciau Cysylltiedig