Salah di'o!!!
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Rhodri a Twm o Lanrug yn cyfarfod eu harwr, Mo Salah!

25 Ebrill 2018 Diweddarwyd 14:56 BST

Ry' chi'n ddisgybl ysgol gynradd. Ry' chi ar drip ysgol i amgueddfa'r Beatles yn Lerpwl, a phwy sy'n cerdded mewn?

  • Cliw: Sgoriodd e ddwywaith i'w dîm, Lerpwl, yn rownd gynderfynol Cwpan y Pencampwyr nos Fawrth.
  • Cliw: Mae wedi sgorio 43 gwaith eleni i Lerpwl.
  • Cliw: Fe enillodd wobr y PFA: Chwaraewr y Flwyddyn 2017-18.
  • Cliw: Dyw e ddim yn chwarae pêl-droed fel ei enw!

Felly pan welodd Rhodri a Twm o Lanrug eu harwr yn cerdded mewn... wel, gadewch iddyn nhw adrodd y stori!

☆ Fideo o raglen Ffeil ar S4C ☆