Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio ym Mhowys

Hollie Kerrell Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Cafodd Hollie Kerrell ei gweld ddiwethaf yn ei chartref yn Nhrefyclo ddydd Sul

Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn diflaniad dynes 28 oed o Drefyclo ym Mhowys.

Cafodd Hollie Kerrell ei gweld ddiwethaf yn ei chartref ar ddydd Sul, 22 Ebrill, a does neb wedi clywed oddi wrthi ers hynny.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un a welodd Hollie nos Sadwrn neu ar ôl hynny i gysylltu â nhw ar fyrder.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Jon Cummins: "Er bod yna ddatblygiad sylweddol wedi bod, a bod rhywun wedi ei arestio, rydyn ni dal angen cymorth y cyhoedd gyda'r ymchwiliad hwn."

Pynciau Cysylltiedig