Croesawu athletwyr Gemau'r Gymanwlad Cymru i'r Senedd

Gemau'r Gymanwlad Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd aelodau Tîm Cymru eu croesawu i'r Senedd brynhawn dydd Mercher

Cafodd llwyddiant tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ei ddathlu mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher.

Daeth Tîm Cymru â 36 o fedalau yn ôl o Arfordir Aur, Awstralia, gan orffen yn seithfed yn y tabl, a sicrhau'r gemau mwyaf llwyddiannus erioed.

Ymhlith yr athletwyr gafodd eu croesawu i'r Senedd roedd y codwr pwysau Gareth Evans, y nofiwr Alys Thomas a Hollie Arnold, enillodd gystadluaeth taflu'r waywffon F46.

Image copyright BBC Sport

Fe gawson nhw eu croesawu gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.

"Unwaith eto, rydyn ni wedi profi fod Cymru wirioneddol yn genedl o bencampwyr, sy'n cynhyrchu campwyr sy'n gallu perfformio ar y llwyfan byd-eang," meddai Mr Jones.

"Diolch, nid yn unig am yr hyn rydych chi wedi ei wneud dros Gymru, ond am fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i filoedd sydd eisiau dilyn yn ôl eich troed."

Image copyright Getty Images
Image caption Athletwyr Cymru yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad yn Arfordir Aur Awstralia

Diolchodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, i bob un o'r athletwyr am yr hyn gyflawnon nhw yn enw Cymru, gan ychwanegu ei bod yn fraint cael eu croesawu i adeilad y Senedd.

Wedi'r digwyddiad ffurfiol y tu fewn i'r Senedd, cafodd yr athletwyr gyfle i fynd allan i'r Bae i gwrdd ag aelodau'r cyhoedd oedd wedi dod i ddangos ei cefnogaeth i'r tîm.