Y Bencampwriaeth: Hull 0-2 Caerdydd

Caerdydd Image copyright Getty Images
Image caption Aeth Caerdydd ar y blaen gyda pheniad Sean Morrison o gic gornel Joe Ralls

Cafodd Caerdydd fuddugoliaeth allweddol yn Hull brynhawn Sadwrn i hawlio'r ail safle yn y Bencampwriaeth gydag un gêm yn unig yn weddill o'r tymor.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen ar ôl hanner awr wrth i'r capten Sean Morrison benio cic gornel Joe Ralls i gefn y rhwyd.

Ychwanegodd yr amddiffynnwr ei ail gyda 10 munud yn weddill, wrth iddo grymanu'r bêl heibio i'r golwr Allan McGregor.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd bwynt ar y blaen i Fulham ac yn cadw eu ffawd yn eu dwylo eu hunain cyn gemau ola'r tymor y penwythnos nesaf.

Bydd yr Adar Gleision yn croesawu Reading, tra bo Fulham yn teithio i Birmingham.