Pro14: Gleision 23-26 Gweilch

Dan Biggar Image copyright Huw Evans picture agency

Fe roddodd gôl adlam hwyr Dan Biggar fuddugolaeth i'r Gweilch dros y Gleision yn ail hanner Dydd y Farn yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Y Gweilch sgoriodd cais cynta'r gêm, wrth i Alun Wyn Jones dorri trwy dacl i groesi wedi 18 munud.

Ond fe wnaeth y clwb o'r brifddinas daro 'nôl ychydig funudau'n ddiweddarach wrth i'r maswr Gareth Anscombe dorri trwy'r amddiffyn am gais unigol gwych.

Aeth y Gleision ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm yn fuan wedi hynny gyda chais gan y canolwr Garyn Smith i'w gwneud yn 20-13 ar yr egwyl.

Y Gweilch gafodd y dechrau gorau i'r ail hanner wrth i Biggar dorri trwy amddiffyn y Gleision i ddod â'r sgôr yn gyfartal unwaith eto.

Yn dilyn gôl gosb yr un i Anscombe a Biggar, gôl adlam gan faswr y Gweilch yn y munudau olaf seliodd y fuddugolaeth i'r rhanbarth o'r gorllewin.

Pynciau Cysylltiedig