Achub dwy ferch a'u ci aeth yn sownd ar gorstir

RNLI Image copyright RNLI

Mae dwy ferch a'u ci wedi cael eu hachub gan Wylwyr y Glannau a'r RNLI ar ôl mynd yn sownd ar gorstir yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Fe wnaeth timau o Bort Talbot a Phorth Tywyn achub y grŵp oddi ar y tir ger Afon Nedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc cyn 19:00 nos Sadwrn, ac roedd ar ben erbyn 21:30.

Dywedodd y gwasanaethau bod y plant yn "ddiogel ond oer" a'u bod wedi cael dychwelyd adref.