Arestio dyn 18 oed wedi i gar daro pobl yng Nghasnewydd

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae fideo wedi ymddangos sy'n dangos car wedi'i amgylchynu gan dorf o bobl

Mae dyn lleol 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf trwy yrru'n beryglus wedi i bedwar o bobl eu taro gan gar yng Nghasnewydd.

Cafodd y pedwar eu cludo i'r ysbyty wedi iddyn nhw gael eu taro gan y car, wnaeth ddim stopio yn dilyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dwy ddynes wedi dioddef anafiadau all newid eu bywydau yn y digwyddiad.

Ychwanegon nhw bod car Ford C Max wedi taro tair dynes ac un dyn ar Heol Cambrian am 05:30 fore Sul.

Image caption Mae Heol Cambrian ar gau i'r cyhoedd yn dilyn y digwyddiad

Dywedodd y llu nad ydyn nhw'n credu bod y digwyddiad yn ymwneud â therfysgaeth ac nad yw'n gysylltiedig â'r marathon sy'n cael ei gynnal yn y ddinas ddydd Sul.

Cafodd y car ei yrru i gyfeiriad Maendy yn dilyn y gwrthdrawiad, ac fe gafodd ei ganfod wedi'i losgi ar Heol Magwyr yn ddiweddarach.

Mae'r heddlu wedi cau Heol Cambrian i'r cyhoedd tra'u bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Image copyright Daniel Lee James
Image caption Cafodd y car ei ganfod wedi'i losgi ar Heol Magwyr yn y ddinas

Straeon perthnasol