Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy

B5106 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B5106 rhwng Betws-y-Coed a Llanrwst

Mae beiciwr modur 32 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Betws-y-Coed a Llanrwst yn Sir Conwy.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar y B5106 am 05:00 fore Sul.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn fu farw yn lleol i'r ardal, ac mai'r beic modur oedd yr unig gerbyd oedd yn y gwrthdrawiad.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un welodd feiciwr modur yn ardal Betws-y-Coed rhwng 01:00 a 05:00 fore Sul i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig