Corff dyn wedi'i ganfod ar draeth yn Llandudno

Traeth Llandudno Image copyright Google
Image caption Cafodd y corff ei ganfod ar y traeth y tu allan i orsaf yr RNLI yn Llandudno

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod corff dyn wedi'i ganfod ar draeth yn Llandudno.

Cafodd yr heddlu eu gwneud yn ymwybodol o'r darganfyddiad gan yr RNLI toc wedi 05:30 fore Sul.

Dywedodd y llu eu bod yn gweithio i sefydlu amgylchiadau'r farwolaeth, sy'n cael ei thrin fel un heb esboniad.

Cafodd y corff ei ganfod ar y traeth ger gorsaf yr RNLI yn y dref.

Mae'r corff eto i gael ei adnabod yn ffurfiol.

Pynciau Cysylltiedig