Uwch-Gynghrair Lloegr: Bournemouth 1-0 Abertawe

gol Bournemouth Image copyright Reuters

Colli fu hanes Abertawe mewn gêm yr oedd yr Elyrch angen ei hennill er mwyn diogelu eu lle yn yr Uwch-Gynghrair.

Roedd hi'n ddechrau digon bregus i Abertawe yn Stadiwm Vitality wrth i Bournemouth hawlio cic gosb yn y munudau cyntaf ond ni chaniatáwyd hynny.

Wedi hynny roedd chwarae Abertawe yn gryfach ond roedd na gamgymeriadau bach ac fe roddodd trosedd gan Olsson ar ymyl cwrt cosbi Abertawe gic gosb i Bournemouth ar ôl 36 munud.

O'r gic honno daeth y bêl at draed Ryan Fraser a gyda gwyriad oddi ar ben Mawson aeth y bêl i gornel y rhwyd.

Ymatebodd Abertawe gyda'r ddau frawd Jordan ac Andre Ayew yn chwarae'n frwdfrydig a dylai Jordan fod wedi unioni'r sgôr cyn hanner amser ond fe fethodd ei gic.

Felly ar hanner amser roedd hi'n un gôl i ddim i'r tîm cartref.

Canlyniad Southampton yn allweddol

Ond erbyn yr ail hanner yr oedd Abertawe wedi colli'r awch yn eu hymosod.

Roedd y chwaraewyr wedi gorfod chwarae'n galed mewn gwres mawr ac yr oedd y blinder yn fwy amlwg.

Roedd y croesiadau i'r blwch cosbi yn rhai gobeithiol yn hytrach na rhai wedi eu hanelu'n gywrain.

Ar ben hynny roedd Bournemouth wedi tynnu pawb yn ôl i amddiffyn ac felly prin iawn oedd y lle i'r brodyr Ayew ac Abrahams o flaen y gôl.

Mae gan Abertawe ddwy gêm ar ôl - un yn erbyn Southampton a'r llall yn erbyn Stoke - i gadw'u lle yn yr Uwch-gynghrair.

Gall Everton wneud ffafr ag Abertawe drwy guro Southampton yn y gêm yn hwyrach nos Sadwrn.