Adran Dau: Carlisle 1-1 Casnewydd

Padraig Amond of Newport County rues a missed chance Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Padraig Amond unionodd y sgôr i Gasnewydd

Daeth tymor Casnewydd i ben yng Nghaerliwelydd mewn gêm gyfartal un yr un.

Mae hyn yn golygu fod y tîm o Went yn gorffen yn yr unfed safle ar ddeg yn Adran Dau.

Mark Ellis o dîm Carlisle United sgoriodd y gôl gyntaf wrth iddo godi'n uchel i benio croesiad Mike Jones i'r gôl ar ôl chwarter awr.

Ond roedd Casnewydd yn dal i frwydro a chyn diwedd yr hanner cyntaf daeth croesiad gan Robbie Willmott i ganol y blwch cosbi ac fe beniodd Padraig Amond y bêl i gornel dde isaf y gôl.

Un yr un oedd hi wedyn drwy weddill y gêm er i'r ddau dîm gael ambell gyfle.

Ond o gofio ymdrech arwrol y clwb i osgoi disgyn o'r gynghrair y llynedd bydd Mike Flynn yn siwr o fod yn fodlon gweld yr Alltudion yn gorffen yn yr unfed safle ar ddeg wedi 16 gêm gyfartal.