Pro 14: Scarlets 43-8 Cheetahs

Scarlets full-back Leigh Halfpenny scored a try before limping off late in the first half Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Leigh Halfpenny sgoriodd yr ail gais ond bu'n rhaid iddo adael y cae cyn hanner amser gan ei fod yn gloff

Roedd yna fuddugoliaeth ysgubol i'r Scarlets nos Sadwrn adref yn erbyn y Cheetahs yn rownd go-gyn derfynol y Pro 14.

Roedd gan y tîm fantais yn fuan wedi ceisiau Steff Evans a Leigh Halfpenny ac erbyn hanner amser roedd y sgôr yn 24- 3 wedi cais arall gan Steff Evans.

Doedd dim pall ar y ceisiau yn yr ail hanner wrth i Tom Prydie, Ken Owens a Jonathan Evans groesi'r llinell ac roedd cicio Rhys Patchell hefyd yn llwyddiannus.

Wedi 61 munud o chwarae roedd y sgôr yn 43-3 i'r Scarlets ond roedd yna wobr gysur i'r Cheetahs wedi 77 munud wrth i Clayton Blommetjies sgorio cais.

Seren y gêm oedd Steff Evans.

Bydd y fuddugoliaeth yn hwb i ymdrechion y Scarlets i amddiffyn eu teitl.