Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad

A494 at Bala Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 ger Y Bala

Mae dyn wedi marw wedi i'w feic modur fod mewn gwrthdrawiad â char yng Ngwynedd ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar yr A494 ger Y Bala am oddeutu 15:00.

Mae teulu'r dyn 57 oed o ardal Wrecsam wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau o gamera dash-cam i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig