Galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried dileu grant anabl

person anabl

Mae gwleidyddion Llafur eisiau i Lywodraeth Cymru ailystyried eu penderfyniad i ddileu grant i bobl anabl.

Ar hyn o bryd mae Grant Byw'n Annibynnol Cymru (WILG) yn cael ei dalu i tua 1,300 o bobl yng Nghymru.

Mae'r arian wedi cael ei basio i gynghorau lleol sydd nawr yn ailasesu'r rheiny sy'n ei dderbyn.

Dywedodd y llywodraeth fod WILG yn "system ddwy haen" a'u bod yn gweithio gyda chynghorau i "gefnogi byw'n annibynnol i holl bobl anabl".

'Costau cynyddol'

Cafodd WILG ei gyflwyno i helpu pobl oedd gynt yn cael cymorth gan Gronfa Byw'n Annibynnol Llywodraeth y DU, ddaeth i ben yn 2015.

Mae'r rheiny sy'n gymwys ar y cyfan yn defnyddio'r arian i dalu am ofalwyr a chynorthwywyr personol er mwyn eu helpu i fyw gartref, gweithio a chymdeithasu.

Ond mae ymgyrchwyr yn poeni y bydd y system newydd yn golygu llai o gefnogaeth, o ystyried faint o bwysau sydd ar gyllidebau cynghorau.

Maen nhw hefyd eisiau cadw'r "system drionglog" oedd yn bodoli cynt fel bod trydydd person annibynnol yn cael mynegi barn ar y gofal, yn hytrach na dim ond y cyngor a'r unigolyn.

Image caption Huw Irranca-Davies yw Gweinidog Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru

Mae ymchwil gan raglen BBC Wales Live yn awgrymu bod rhai cynghorau'n ei chael hi'n anodd cyllido gofal:

  • Dywedodd Cyngor Sir y Fflint na fydd y cyllid yn y dyfodol yn ddigon i "gwrdd â'r anghenion a'r canlyniadau a gytunwyd arnynt ar gyfer cyn-dderbynwyr WILG";
  • Mae Cyngor Caerffili yn dweud y bydd cost y ddarpariaeth yn y dyfodol yn costio mwy na'r grant roedden nhw'n arfer ei dderbyn;
  • Yn ôl Cyngor Conwy bydd yr oriau o ofal mae pobl yn ei dderbyn ar hyn o bryd yn ddrytach dan ofal cymdeithasol y cyngor.

Ond dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod WILG yn "annheg" am nad oedd ymgeiswyr newydd yn gymwys, ac y byddai cynghorau'n sicrhau bod y rheiny sy'n ei dderbyn ar hyn o bryd yn cael "gofal a chefnogaeth briodol" yn y dyfodol.

'Torri nghalon'

Yn 2015 fe wnaeth Llywodraeth y DU gwtogi cyllid ar gyfer eu cynllun nhw, a throsglwyddo'r cyfrifoldeb i gynghorau a llywodraethau datganoledig.

Cafodd hynny ei wrthwynebu gan nifer o wleidyddion Llafur, gan gynnwys Jeremy Corbyn.

Mae aelodau'r blaid nawr wedi gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'u cyfran nhw o'r cyllid i'r cynghorau.

Roedd y bleidlais, yng nghynhadledd wanwyn Llafur Cymru, yn ergyd i arweinyddiaeth y blaid ac i'r gweinidog gofal cymdeithasol, Huw Irranca-Davies.

Dywedodd yr aelod Llafur Nathan Lee Davies, sydd wedi sefydlu grŵp i ymgyrchu o blaid achub WILG, y dylai Llywodraeth Cymru efelychu'r Alban a chadw'r grant.

"Roeddwn i'n arfer byw yn Yr Alban ac weithiau dwi'n dymuno y buaswn i dal yn byw yno fel bod modd i mi fanteisio ar system Gronfa Byw'n Annibynnol Yr Alban," meddai.

"Mae'n torri nghalon fel Cymro balch. Roeddwn i'n meddwl y bydden i'n iawn gyda Llywodraeth Lafur Cymru, ond nid dyna'r gwirionedd o gwbl."

Image caption Nathan Davies yn ymgyrchu yng nghynhadledd wanwyn Llafur Cymru

Mae gwleidyddion Llafur - gan gynnwys Julie Morgan AC, Ian Lucas AS a Susan Elan Jones AS - hefyd wedi dweud y dylai'r llywodraeth ailystyried.

"Mae Llywodraeth Cymru ar wahân i'r blaid Lafur, ond yn amlwg os oes unrhyw gynhadledd plaid fawr ble mae pleidlais yn cael ei hennill yn y modd yma, ac fe wnaeth Nathan mor dda, dylid edrych ar y peth eto," meddai Ms Morgan.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad wedi'i wneud yn dilyn "ymgynghori eang â sefydliadau yn cynrychioli pobl anabl".

"Mae dros draean y bobl oedd yn derbyn taliadau trawsnewid nawr yn derbyn eu cefnogaeth yn y modd yma," meddai.

"Fydd yr un person yn colli eu taliadau presennol nes eu bod nhw wedi gweithio drwy a chytuno ar eu pecyn cymorth gyda'r cyngor."

Bydd rhaglen Wales Live yn cael ei darlledu am 22:30 nos Fercher ar BBC One Wales.