Lowri
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Methu golffio' er yn talu ffioedd llawn

9 Mai 2018 Diweddarwyd 16:23 BST

Mae golffiwr o Gaerdydd wedi'i gwahardd dros dro o glwb golff Cottrell Park ger Y Bont-faen oherwydd "rhai sylwadau" mae hi wedi'u gwneud ar y cyfryngau.

Roedd Lowri Roberts wedi cwyno yn wreiddiol nad oedd ganddi'r hawl i chwarae ar yr un pryd â'r dynion ar foreau Sadwrn - penderfyniad gafodd ei wyrdroi ddydd Gwener.

Mae'r clwb nawr wedi'i gwahardd nes y bydd proses ddisgyblu yn dechrau ac mae'n dweud ei bod yn rhwystredig nad ydy hi yn gallu chwarae.