Pump yn pledio yn ddieuog yn achos ymosodiad Ifan Owens

Ifan Owens Image copyright Gareth Owens
Image caption Mae Ifan Owens yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae pum dyn wedi pledio yn ddieuog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda'r bwriad o achosi anaf difrifol i fyfyriwr yn Aberystwyth y llynedd.

Cafodd Ifan Owens o Gaerdydd ei ddarganfod yn anymwybodol yn dilyn digwyddiad ar Stryd Fawr Aberystwyth oriau man dydd Sul, 14 Ionawr.

Bu Mr Owens mewn coma am bedair wythnos.

Ymddangosodd Billy Michael Valentine, 19, David Robert Lloyd 25, Lee Andersen, 20, Andrew Raymond John Scott, 23 a Michael Jones, 24 yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener i ddatgan eu ple.

Mae'r pum dyn yn parhau yn y ddalfa cyn dychwelyd i'r llys ar 6 Awst.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol