Cwpan Her: 'Y Gleision yn ffefrynnau'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cwpan Her Ewrop: 'Y Gleision yn ffefrynnau'

11 Mai 2018 Diweddarwyd 15:15 BST

Mae hi'n ddiwrnod mawr i'r Gleision, wrth iddyn nhw herio Caerloyw yn ffeinal Cwpan Her Ewrop yn Bilbao nos Wener.

Mae'r Gleision yn gobeithio ennill y gystadleuaeth am yr ail dro, ar ôl iddyn nhw drechu Toulon yn y rownd derfynol i gipio'r tlws yn 2010.

Ychydig oriau cyn dechrau'r gêm bu gohebwyr BBC Cymru, Cennydd Davies a Gareth Charles, y tu allan i Stadiwm San Mames i drafod gobeithion y Gleision, gan awgrymu mai'r Cymry yw'r ffefrynnau.

Mae modd dilyn y gêm ar ein llif byw arbennig.