Gweithwyr tân yn mynychu mwy o alwadau meddygol

gweithwyr tan
Image caption Mae nifer y galwadau brys meddygol mae gweithwyr tân wedi mynychu wedi treblu yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y galwadau brys meddygol mae gweithwyr tân wedi mynychu yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf treblu wnaeth nifer y galwadau.

Llynedd cafodd y criwiau tân eu hanfon i 4,200 o alwadau meddygol a nhw oedd y cyntaf i gyrraedd y cleifion mewn 1,716 o achosion.

Mae gweithwyr tân hyd yn oed yn rhoi cyngor ynglŷn â sut i fwyta yn iach a chamdriniaeth alcohol yn ystod ymweliadau â'r cartref.

Ar hyn o bryd mae gweinidogion yn ystyried os dylai'r gwasanaeth iechyd rhoi arian i adrannau tân fel rhan o adolygiad.

Yn 2009-10 fe aeth y criwiau tân i 1,260 o alwadau meddygol ond 4,174 oedd y ffigwr erbyn 2016-17 yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru.

Mae gweithwyr tân yn cael eu hanfon, yn hytrach nag ambiwlans os ydynt yn agosach, ac mae hynny yn cynnwys rhai o'r galwadau lle mae bywydau cleifion mewn perygl, fel trawiad ar y galon.

Maent hefyd yn cael eu hanfon i achosion sydd ddim yn rhai argyfwng, fel os yw person wedi torri asgwrn, mewn ymgais i helpu parafeddygon allu mynychu galwadau brys.

Yn y cyfamser yn ogystal â gwyro larymau tân mae swyddogion tân yn rhoi cyngor "ataliol" iechyd i drigolion gan gynnwys camdriniaeth alcohol a chyffuriau, camdriniaeth ddomestig, ysmygu a diet gwael.

Y sefyllfa bresennol yw bod gwasanaethau tân ac achub yn y canolbarth, gogledd a'r de yn cael eu hariannu gan gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.

Ond mae'r ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, yn ystyried newid hyn er mwyn gweld os yw'r GIG yn gallu helpu i ariannu'r gwasanaeth tân am eu bod yn cynnig mwy o gefnogaeth iechyd.

Image caption Mae Alun Davies yn ystyried gofyn i'r gwasanaeth iechyd gyfrannu arian at y gwasanaethau tân ac achub yn y dyfodol

Mae Mr Davies yn edrych ar y sefyllfa ariannu fel rhan o adolygiad awdurdodau tân ac achub Cymru. Nhw sydd yn gosod blaenoriaethau a chyllidebau ar gyfer y criwiau tân ac mae'r gweinidog yn credu nad ydyn nhw'n atebol i'r etholwyr.

Mewn llythyr at benaethiaid yr awdurdodau tân mae'n dweud bod hi'n anodd "cyfiawnhau nawdd lleol yn unig" oherwydd y gwaith mae'r gweithwyr tân yn gwneud ar gyfer y GIG.

"Os ydych yn teimlo y dylai'r GIG wneud cyfraniad cyson i'r gwaith hynny, rwy'n hapus i drafod gyda fy nghyfeillion."

Mae cadeiryddion yr awdurdodau wedi dweud wrth Mr Davies mewn llythyr nad dim ond yr awdurdodau ddylai gael eu diwygio os ydynt am barhau i gefnogi'r gwasanaeth iechyd.

Angen 'ymrwymiad llwyr'

"Os yw Llywodraeth Cymru o ddifri ynglŷn ag arloesi er mwyn cwrdd â'r pwysau eithriadol sydd ar y GIG yna fe fyddwn ni angen ymrwymiad llwyr ar draws holl ardaloedd gwahanol y GIG, gan gynnwys gan arweinwyr gwleidyddol.

"Does dim llawer o dystiolaeth bod hyn yn digwydd ar hyn o bryd... yn enwedig o safbwynt nawdd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi datgan yn glir eu "ymrwymiad i ddiwygio nawdd a llywodraethiant y Gwasanaeth Tân yng Nghymru.

"Ar hyn o bryd dyw Awdurdodau Tân ac Achub ddim yn atebol i'r etholwyr, na'r llywodraethau cenedlaethol na lleol ac mae angen datrys hyn er mwyn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer democratiaeth leol."

Straeon perthnasol