Cyn-flaenwr Cymru a'r Llewod, Gareth Williams, wedi marw

Gareth Williams Image copyright Clwb Rygbi Penybont
Image caption Fe chwaraeodd Gareth Williams mewn pedair gêm rownd derfynol Cwpan Cymru dros Glwb Rygbi Penybont

Mae un o gyn-chwaraewyr rygbi Cymru a'r Llewod, Gareth Williams, wedi marw yn 63 oed.

Roedd yn gapten ar Glwb Rygbi Pen-y-bont yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf llewyrchus yn y 70au hwyr a'r 80au, ac yn ogystal â chwarae pump o weithiau dros Gymru rhwng 1980 ac 1982 fe chwaraeodd i dîm y Llewod yn 1980.

Ers 2012 roedd wedi bod yn diodde' o gyflwr lle mae celloedd nerfau yn yr ymennydd yn dirwyo dros gyfnod.

Cafodd ei farwolaeth ei gadarnhau gan Glwb Rygbi Pen-y-bont ar eu tudalen Facebook, lle cafodd ei ddisgrifio fel "gwir arwr".

Image copyright Clwb Rygbi Penybont
Image caption Roedd Gareth Williams yn cael ei adnabod fel 'Sam' i lawer o gefnogwyr Clwb Rygbi Pen-y-bont

"Fe chwaraeodd Gareth yn y buddugoliaethau yn erbyn Pontypridd ac Abertawe yng Nghwpan Cymru", meddai'r datganiad.

"Fe sgoriodd gais yn y gêm yn erbyn Pontypridd yn 1979, ac fe oedd seren y gêm yn erbyn Abertawe yn 1980.

"Roedd 'Sam' yn ŵr bonheddig, yn chwaraewr aruthrol, yn ddyn teulu arbennig ac yn ffrind da i lawer.

"Fe fydd y golled i'w deimlo gan bawb a fuodd mor ffodus i'w nabod."

Image copyright @lionsofficial
Image caption Fe chwaraeodd Gareth Williams i'r Llewod yn erbyn De Affrica yn 1980

Ar eu cyfri Twitter, dywedodd y Llewod "bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau Gareth Williams sydd wedi marw yn sgil salwch. "

"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni'n gallu anrhydeddu ei fywyd a'i gyfraniad i'r Llewod drwy gyflwyno'r cap hwn yn ei enw.

"Llew #571."‪

Pynciau Cysylltiedig