Danfon plant mewn gofal Caerdydd cyn belled â Lerpwl

Dwylo plentyn Image copyright Getty Images

Mae plant mewn gofal yng Nghaerdydd yn cael eu danfon i lefydd cyn belled â Lerpwl wrth i gyngor y ddinas ystyried a ddylid buddsoddi mwy mewn cartrefi ar eu cyfer.

Fe fydd yr awdurdod yn ystyried codi cartrefi plant newydd o fewn y flwyddyn nesaf fel un mesur posib i osgoi danfon plant filltiroedd o Gaerdydd am ofal.

Yn ôl ymchwiliad i achosion o leoli plant y tu allan i'r ddinas, roedd 244 (o gyfanswm o 800) yn cael gofal mewn sir wahanol, ac mae'r adroddiad yn nodi fod rhai cyn belled â Lerpwl, gogledd Lloegr a gogledd Cymru.

Ond mae'r cyngor yn dweud fod 80% o'r achosion dan sylw o fewn 20 milltir i Gaerdydd, a bod nifer o resymau am eu symud i lefydd pellach i ffwrdd gan gynnwys byw gyda rhieni neu berthnasau neu fod yn agos at deuluoedd maeth.

Ac yn ôl cadeirydd Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y cyngor, y Cynghorydd Lee Bridgeman mae'n ddymundol mewn rhai achosion i bobl ifanc adael y ddinas "er enghraifft, mewn achosion o ecsploetio rhywiol".

Ond yn gyffredinol, meddai, y duedd yw i drefnu gofal yn y ddinas pe bai hynny'n bosib.

"Mae'n rhaid ailagor cartrefi plant ond mae gofyn iddyn nhw fod yn wahanol i gartrefi'r gorffennol," meddai. "Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o'r gymuned."

Image copyright Google
Image caption Mae argymhelliad i dderbyn merched yn Ysgol Greenhill - ysgol arbennig i fechgyn yn unig ar hyn o bryd

Bydd cabinet y cyngor yn ystyried a ddylid derbyn merched yn Ysgol Greenhill, Rhiwbeina - ysgol arbennig i fechgyn - er mwyn eu cadw yn y ddinas.

Fe fyddan nhw hefyd yn ystyried ffyrdd newydd o recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol.

O'r 244 o blant mewn gofal y tu allan i Gaerdydd ar 21 Gorffennaf y llynedd, roedd:

  • 155 gyda gofalwyr maeth asiantaeth;
  • 38 mewn cartrefi gofal;
  • 14 gyda gofalwr maeth, perthynas neu chyfaill mewn sir wahanol,
  • 10 gyda rhiant neu warchodwr; a
  • chwech mewn uned troseddwyr ifanc neu garchar.

Roedd y gweddill mewn ysgolion preswyl neu'n byw'n annibynnol.

'Ateb gofynion cymhleth'

Yn ôl amcangyfrif ym mis Chwefror roedd disgwyl i adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod fynd £3.9m dros ei gyllideb ar gyfer 2017/18.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, sy'n gyfrifol am blant a theuluoedd, mai nod yr ymchwiliad oedd i "archwilio pob ffordd bosib o osod y nifer mwyaf posib o blant yng Nghaerdydd" a'u bod yn gwneud hynny eisoes bob tro mae hynny'n bosib.

"Yn bennaf oll, mae'n rhaid sicrhau bod trefniadau wedi'u teilwra i ateb gofynion cymhleth ac amrywiol unigolion," dywedodd. "Wrth drefnu gofal mewn sir arall, mae trefniadau cadarn i ateb gofynion addysgol, iechyd a chymdeithasol.

"Ni allaf drafod achosion unigol, ond fe fydd y plant sy'n byw bellach na 20 milltir o Gaerdydd yno am nifer o resymau, ac mae'n bwysig cydnabod yr amgylchiadau."