Rôl barhaol i gadeirydd y corff Chwaraeon Cymru

Lawrence Conway Image copyright Chwaraeon Cymru

Bydd cadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru yn aros yn y swydd yn barhaol.

Fe gymerodd Lawrence Conway rheolaeth o'r corff yn 2017 ar ôl i Paul Thomas gael ei wahardd ac yna ei ddiswyddo o'r rôl.

Wrth gadarnhau'r newyddion dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas fod Mr Conway wedi darparu "hyder o'r newydd a llwyfan sefydlog i'r mudiad."

Mae Chwaraeon Cymru yn annog chwaraeon elitaidd ac ar law gwlad ac yn cael cyllid blynyddol o £22m.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas y bydd Mr Conway yn parhau i weithredu argymhellion adolygiad y gweinidog.

Yn y gorffennol mae Mr Conway wedi cael swyddi uchel fel gwas sifil gyda Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cymru a Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd.

Wedi iddo ymddeol o'r gwasanaeth sifil yn 2009, cafodd ei benodi'n un o ymgynghorwyr arbennig Carwyn Jones.

Mae pedwar o aelodau newydd i'r bwrdd hefyd wedi eu cyhoeddi sef Judi Rhys, Yr Athro Leigh Robinson, Martin Veale a Phil Tilley.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol