Geraint Thomas yn ennill ras y Criterium du Dauphine

geraint thomas Image copyright Getty Images

Mae Geraint Thomas wedi ennill y Criterium du Dauphine er i'w fantais gael ei gwtogi ar ddiwrnod olaf y ras.

Doedd hi ddim yn rhwydd i gyd i seiclwr Team Sky, gafodd byncjar yn ystod y ras a gorfod newid ei olwyn.

Ar un adeg roedd tua 40 eiliad y tu ôl i'r grŵp oedd yn cynnwys ei ddau brif wrthwynebydd, Adam Yates a Romain Bardet, ag yntau wedi dechrau'r diwrnod gyda mantais o funud a 29 eiliad dros Yates.

Ond llwyddodd i gau'r bwlch ac er gwaethaf ymosodiad hwyr gan Bardet a Yates llwyddodd y Cymro i gadw digon o fantais dros y ddau i ddal ei afael ar y crys melyn.

Gorffennodd Thomas yn bumed yn y cymal olaf, gyda Yates o dîm Mitchelton-Scott yn gyntaf, David Navarro Garcia o UCI Continental yn ail, a Bardet o AG2R yn drydydd.

Roedd hynny'n ddigon i sicrhau ei fod yn fuddugol o funud yn y dosbarthiad cyffredinol, gyda Yates yn ail a Bardet yn drydydd.

Roedd y ras drwy'r Alpau eleni yn cynnwys saith cymal, gyda Thomas yn brif feiciwr Sky yn absenoldeb Chris Froome.

Pynciau Cysylltiedig