Crynodeb

  1. Mae Cynulliad Cymru yn cwrdd am 13.30 GMT. Dechreuodd y sesiwn lawn gyda cwestiynau i'r gweinidog cyllid.
  2. Cwestiynau i'r gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.
  3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb Rhan 2.
  4. Dadl y Ceidwadwyr ar bwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru.
  5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol ar Gynllun llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis, Alun Jones a Leonie Horton

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl fawr!

Dyna'r cyfan o'r Siambr tan ddydd Mawrth 5 Mai.

Lleoliadau gwaith

Yn ôl y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James AC, "mae'n fusnes fel arfer" gan y bydd y rhai a ymunodd â chynllun Twf Swyddi Cymru ym mis Mawrth yn parhau â'u lleoliadau gwaith tan fis Medi.

Pryder

Mae Aled Roberts yn mynegi pryder am bobl hŷn sy'n ddi-waith, nid yn unig y rhai 16-24 oed.

Gwerthusiad

Mae gwerthusiad o gynllun

Twf Swyddi Cymru ar gael yma.

Twf Swyddi Cymru

Roedd cau'r cynllun yn

destun trafod yn y Siambr yr wythnos ddiwethaf.

'Pontio'

Mae'r Adran dros Addysg a Sgiliau (AdAS) ar hyn o bryd mewn "cyfnod o bontio" rhwng rhaglen bresennol Twf Swyddi Cymru a'i olynydd. Mae'r AdAS yn bwriadu lansio'r rhaglen newydd erbyn canol mis Mai.

Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd

Cyllidwyd Twf Swyddi Cymru yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a daeth y gyfres bresennol o raglenni i ben ar 31 Mawrth 2015 ar gyfer newydd-ddyfodiaid yn unig.

Diweithdra

Roedd Twf Swyddi Cymru yn ymdrin â diweithdra ymhlith pobl ifanc ac yr oedd yn "anelu at greu 16,000 o swyddi erbyn mis Mawrth 2016 i bobl ifanc ddi-waith rhwng 16 a 24 oed sy'n barod ar gyfer gwaith".

'Syfrdanol'

Mae'n "syfrdanol", yn ôl Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol, bod llywodraeth Cymru wedi caniatáu i gynllun Twf Swyddi Cymru i ddod i ben heb gynllun newydd yn ei le.

Twf Swyddi Cymru

Mae'r aelodau yn symud ymlaen at eitem olaf y Cyfarfod Llawn, sef Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gynllun Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru.

Twristiaeth Bwyd

Dywed Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, y "bydd Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd yn cael ei gyhoeddi yfory."

Tafarndai

Mae'r Ceidwadwr Mohammed Asghar yn cyfeirio at honiad yr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn (CAMRA) 's bod dwy dafarn yn cau yng Nghymru bob wythnos.

Ffermwyr hunangyflogedig

Mae'r Democrat Rhyddfrydol William Powell yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi eu helw fel cyfartaledd o bum mlynedd i ddwy flynedd at ddibenion treth incwm, "gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol".

Ffermwyr Ifanc

Mae Russell George yn croesawu bod cyllid ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.

Cefn gwlad

Mae'r aelodau yn symud ymlaen at Ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru.

Cydweithio

Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn "derbyn argymhelliad y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Cynulliad i ddatblygu proses newydd ar gyfer y gyllideb. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gydweithio ac rwy'n ymrwymedig i weithdrefn gyllidebol y gall pawb gytuno arni".

Ychwanegodd Ms Hutt wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor, "Gyda'n gilydd, bydd angen i ni ystyried gallu'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd i roi ar waith a gweithredu proses ddiwygiedig y gyllideb yn effeithiol".

Cadeirydd: Jocelyn Davies

Jocelyn Davies
BBC

Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol

Gellir ymateb i'r

ymgynghoriad yma.

Mae amcangyfrifon diweddar Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer 2013-14 yn dangos y codwyd £145 miliwn yng Nghymru drwy Dreth Dir y Dreth Stamp, gyda 51,600 o drafodiadau. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y gellid codi £259m yng Nghymru ar ôl datganoli'r dreth yn 2018-19.

Y Dreth Stamp

Mae wythnos i fynd tan ddiwedd yr ymgynghoriad ar Dreth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru.

O fis Ebrill 2018, caiff Treth Dir y Dreth Stamp ei datganoli i Gymru, gyda Threth Trafodiadau Tir yn cael ei gosod yn ei lle. Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar amryw faterion, gan gynnwys cyfraddau treth, rhyddhad ac eithriadau, ac mae'n dod i ben ar 6 Mai.

Ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor

ymgynghoriad i gasglu tystiolaeth ar arferion gorau o ran y gyllideb.

Tystiolaeth

Yn ôl Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yn yr adroddiad: "Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor wedi dangos cyfyngiadau system gyllidebol bresennol Cymru; ar hyn o bryd y Pwyllgor Cyllid a'r Gweinidog Cyllid sy'n ymwneud yn bennaf ag awdurdodi'r gyllideb. Credwn yn gryf y dylai'r system newydd ganolbwyntio ar y prif benderfyniadau dyrannu, ac y dylai hefyd sicrhau digon o amser fel y gall y pwyllgorau polisi graffu ar wariant ym mhortffolios perthnasol y Gweinidogion".

Arfer gorau

Cytunodd y Pwyllgor Cyllid i gynnal ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol er mwyn sicrhau bod prosesau cyllidebol effeithiol ar waith i graffu ar y pwerau ariannol a geir ym Mesur Cymru.

Pwyllgor Cyllid

Mae'r aelodau yn symud ymlaen i Ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith.

Contractau dim oriau

Contractau dim oriau yw'r pwnc a godwyd gan Simon Thomas o Blaid Cymru. Mae contractau dim oriau, neu gontractau achlysurol, yn caniatáu cyflogwyr i gyflogi staff heb unrhyw warant o waith. Maent yn golygu bod gweithwyr yn gweithio dim ond pan fydd eu hangen gan gyflogwyr, yn aml ar fyr rybudd. Mae eu cyflog yn dibynnu ar faint o oriau y maent yn gweithio.

Termau cynghorwyr

Gweinidog yn dweud nad oes ganddo "unrhyw fwriad o ymestyn termau cynghorwyr i 6 neu 7 blynedd."

Llun: Leighton Andrews

Leighton Andrews
BBC

Trydar

@GriffithsJECtrl o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dweud bod diffoddwyr wedi taclo 20 o danau gwair gafodd eu cynnau'n fwriadol eto ddoe.

Diffoddwyr tân

Ann Jones (Dyffryn Clwyd), yn gofyn i'r Gweinidog ynghylch ffitrwydd diffoddwyr tân yng Nghymru.

Ymgyrch

Mae ymgyrch wedi ei lansio i geisio denu mwy o ferched i ymuno a'r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.

Yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, 125 o ferched sydd yn gweithio yn y gwasanaeth yng Nghymru.

Cabinet

Dychwelodd Leighton Andrews i'r cabinet

ym Medi 2014 fel Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, gyda chyfrifoldeb dros gyflwyno argymhellion Williams.

Roedd wedi ymddiswyddo fel gweinidog addysg ym Mehefin yn 2013 yn dilyn dadlau am ei safbwynt am ysgol yn ei etholaeth yn y Rhondda.

Deddf Trais

Symud ymlaen i gwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae'r gweinidog, Leighton Andrews, yn dweud y bydd y Deddf Trais yn erbyn Menywod, "yn helpu i atal trais...ac yn amddiffyn ac yn cefnogi'r rheini sy'n dioddef a'r rheini sy'n dod drwy'r profiad."

Manylion pellach

Am fanylion o'r prosiect cliciwch

yma.

Cronfa Buddsoddi i Arbed

Mae'r cyllid yn y gronfa ar gael i gyrff sydd yn cynnig gwasanaethau cyhoeddus er mwyn eu hannog i arloesi a bod yn effeithiol.

Cronfa Buddsoddi i Arbed

Yn 2015-16 mae dros £20m ar gael i'w fuddsoddi mewn prosiectau newydd.

Mae'n angen ad-dalu'r holl fuddsoddiadau a wneir o'r gronfa, ond ni chodir llog ac mae'r cyfnod ad-dalu yn hyblyg.

Bethan a'i medal

Bethan Jenkins
BBC

Marathon

Mae'r Llywydd yn cyfeirio at Bethan Jenkins o Blaid Cymru fel rhedwr marathon.

Jane Hutt yn llongyfarch hi ar ei llwyddiant!

Adfywio

Yn ôl Gwenda Thomas, mae'r "adfywio cyfredol ar gyfer canol tref Castell-nedd..... yn enghraifft wych o gyllid partneriaeth."

Plastai

Mansion Tac
RIGHTMOVE

£2m

Mae Llafur yn awgrymu tâl blynyddol ar gyfer perchnogion tai gydag eiddo sy'n werth mwy na £2m.

Treth plasty

Mae Julie Morgan yn gofyn i'r gweinidog am dreth plasty.