a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Deisebau.
  2. Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Nesaf: Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyhoeddi Adroddiad Flynn.
  4. Nesaf: Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cyflwyniad i'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi.
  5. Nesaf: Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2015-2016.
  6. Nesaf: Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015.
  7. Nesaf: Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl fawr

Dyna ni am heddiw!

Ymunwch â ni eto am 9am fory ar gyfer y Pwyllgor Cyllid.

Senedd
BBC

Cytuno

Cytunodd yr aelodau i egwyddorion cyffredinol y Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

Termau Cymraeg

Mae'r

ddogfen hon yn rhoi crynodeb o'r termau technegol a deddfwriaethol Cymraeg sy'n gysylltiedig â'r Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

Diwylliant o reoleiddio

Dywed y cyn-weinidog Alun Davies, "Un o'r methiannau sylfaenol yng Nghymru yw'r diwylliant o reoleiddio", gan ychwanegu "mae angen diwylliant sy'n cydnabod methiant ac yn gwneud rhywbeth am y peth."

Alun Davies
BBC

Pedwar cyfnod

Mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Bil hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Bil hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Newidiadau

Mae'r Mesur yn cynnig cyflwyno newidiadau a fydd yn:

  • diwygio'r drefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth;
  • darparu fframwaith rheoleiddio sy'n ei gwneud yn ofynnol i reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau;
  • diwygio'r drefn arolygu ar gyfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol;
  • ad-drefnu Cyngor Gofal Cymru a'i ailenwi'n Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ehangu ei gwmpas gwaith; a
  • diwygio'r dull o reoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Egwyddorion Cyffredinol

Mae'r aelodau nawr yn cynnal Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Hawliau

Dywed y cyn Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, "Am y tro cyntaf, bydd gan ofalwyr yr un hawliau i asesu a chymorth i ddiwallu eu hanghenion fel oedolion a phlant."

Gwenda Thomas
BBC

Ymgynghoriad

Dyma'r ymatebion i'r

ymgynghoriad ar y Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015.

Rheoliadau

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r prawf y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei gymhwyso i ddyfarnu p'un a oes gan unigolyn y mae ei anghenion wedi eu nodi mewn asesiad o dan adran 19, 21 neu 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hawlogaeth ai peidio i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu gan awdurdod lleol.

Gofal a Chymorth

Y gweinidog iechyd sy'n cynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno.

Toriadau

Dywed y gweinidog, "Cadarnhaodd y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf faint y toriadau mewn blwyddyn i'n Cyllideb 2015-16. Nid yw'r arian canlyniadol cadarnhaol o £4 miliwn oddi wrth y gyllideb yn gwneud llawer i liniaru effaith y gostyngiadau o £50 miliwn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Canghellor.

"Roeddwn wedi gobeithio heddiw i fedru cyhoeddi buddsoddiadau newydd, er yn fach, mewn rhaglenni cyfalaf a phrosiectau eraill. Mae'r toriadau i'n cyllideb wedi rhoi'r gorau i hynny."

Cynnig

Dyma Gynnig

y Gyllideb Atodol.

Cyllideb Atodol Gyntaf

Mae'r aelodau yn symud ymlaen at Ddadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2015-2016.

800 mlynedd

Dywed y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, "am y tro cyntaf mewn rhyw 800 mlynedd, mae'n galluogi Cymru i gymryd y camau cyntaf tuag at roi ar waith drethi sy'n fwy addas ar gyfer amgylchiadau Cymru a dewisiadau Cymreig."

Jane Hutt
BBC

Diben

Mae'r Mesur yn darparu ar gyfer:

  • sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Prif swyddogaeth ACC fydd casglu a rheoli trethi datganoledig
  • cyflwyno pwerau a dyletswyddau priodol i ACC (a dyletswyddau a hawliau cyfatebol i drethdalwyr ac eraill) mewn perthynas â chyflwyno ffurflenni treth a chynnal ymchwiliadau ac asesiadau er mwyn galluogi ACC i nodi a chasglu'r swm priodol o dreth ddatganoledig sy'n ddyledus oddi wrth drethdalwyr
  • pwerau ymchwilio a gorfodi sifil cynhwysfawr, gan gynnwys pwerau a fydd yn caniatáu i ACC fynnu gweld gwybodaeth a dogfennau ac i gael mynediad i fangreoedd ac eiddo arall a'u harchwilio
  • dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog o dan rai amgylchiadau
  • hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o rai o benderfyniadau ACC ac i apelio at Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau o'r fath
  • cyflwyno pwerau gorfodi troseddol ar ACC.

Trethi datganoledig

Yn ôl llywodraeth Cymru, diben y mesur hwn yw rhoi ar waith y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.

Arian
BBC

Casglu a Rheoli Trethi

Erbyn hyn, ceir datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyflwyniad i'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi.

'Rhaid derbyn argymhellion'

Jocelyn Davies o Blaid Cymru yn gofyn a yw'r prif weinidog mewn sefyllfa i wybod os oes "amgylchiadau tebyg yn bodoli erbyn hyn unrhyw le arall" yng Nghymru.

Meddai Mr Jones, "na, dydw i ddim yn ymwybodol o hynny a byddem yn disgwyl gyda systemau newydd ar waith na fyddai hyn yn cael ei ailadrodd, ond ni allwn fod yn hunanfodlon, yn amlwg, a dyna pam, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni dderbyn argymhellion yr adroddiad ei hun."

Chwilio am atebolrwydd

Dyma Grynodeb Gweithredol o'r

adolygiad o esgeuluso pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Gweithdai

Carwyn Jones yn cyhoeddi y bydd cyfres o weithdai yn cael eu cynnal yn yr hydref o gwmpas Cymru gan Dr Margaret Flynn ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â gofalu am bobl hŷn "lle gall hi siarad yn bersonol am ei chanfyddiadau a'r gwersi."

Oriel gyhoeddus

Mae rhai o aelodau'r teuluoedd a effeithir yn eistedd yn yr oriel gyhoeddus y prynhawn yma.

Senedd
BBC

'Anodd a heriol'

Meddai Carwyn Jones, mae'n "adroddiad manwl a phrudd sy'n darllen anodd a heriol."

Adolygiad annibynnol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r adolygiad annibynnol i ddigwyddiadau mewn cartrefi gofal yn ne ddwyrain Cymru, yn sgil ymchwiliad Ymgyrch Jasmine.

Mae'r adolygiad gan Dr Margaret Flynn yn nodi "cyfres o fethiannau", ac yn gwneud 12 o argymhellion, gan gynnwys sicrhau fod y sector cartrefi gofal a phreswyl yn dod yn "flaenoriaeth genedlaethol" yng Nghymru.

Cafodd yr adolygiad ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar ôl i ymchwiliad yr heddluoedd ddod i ben heb i unrhyw un gael eu herlyn.

Ymgyrch Jasmine oedd enw ymchwiliad Heddlu Gwent i'r esgeulustod honedig mewn chwech o gartrefi gofal ar draws de Cymru rhwng 2005 a 2009.

Ar gost o £11.6 miliwn, dyma'r ymchwiliad mwyaf erioed i gam-drin honedig mewn cartrefi gofal, ac roedd dros 100 o deuluoedd wedi cwyno.

Yn 2013 daeth yr achos i ben yn erbyn Dr Prana Das, un o berchnogion rhai o'r cartrefi, ar ôl lladrad yn ei gartref, wnaeth ei adael gyda niwed i'w ymennydd.

Cafodd yr adolygiad ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Adroddiad Flynn

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar Ddatganiad gan y Prif Weinidog ar Adroddiad Flynn.

Cyhoeddiad Busnes

Y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes gan Jane Hutt sydd ar y gweill erbyn hyn.

Twristiaeth

Janet Howarth AC yn gofyn i Mr Jones am dwristiaeth yng Nghymru.

Mae'n ateb bod "twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref. Torrwyd record yn 2014 wrth i nifer yr ymweliadau dros nos i'n gwlad gan drigolion Prydain Fawr daro 10 miliwn."

Llywydd

Y Llywydd Rosemary Butler yn dweud wrth y Prif Weinidog nad oes angen iddo ateb cwestiynau gan aelodau sydd yn eistedd, ar ôl geiriau rhyngddo ac Elin Jones am dreth ar ddiod siwgraidd.

Elin Jones
BBC
Elin Jones

Cwynion swyddogol

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn dweud bod ffigurau a gasglwyd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn "datgelu bod 10,395 o gwynion swyddogol gan staff wedi cael eu gwneud i benaethiaid byrddau iechyd yng Nghymru ers 2012 ynghylch diffyg staff cymwys ar gael."

Mr Jones yn dweud bod "mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o fydwragedd, mwy o barafeddygon a mwy o staff deintyddol yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru heddiw nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl."

Kirsty Williams
BBC

Diod siwgraidd

Leanne Wood yn gofyn i'r prif weinidog os bydd yn gwneud "tro pedol" ac yn cefnogi cynigion Plaid Cymru dros ardoll ar ddiod siwgraidd - y mae hi yn dweud bod Cymdeithas Feddygol Prydain (y BMA) yn gefnogol.

Meddai Mr Jones, "nid oes gennym y pwerau i wneud hynny" a'i fod yn erbyn neilltuo.

Leanne Wood
BBC

Gwerthu tir

Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies yn codi'r adroddiad a gaiff ei gyhoeddi yfory gan Swyddfa Archwilio Cymru ar werthu tir yng nghyswllt y Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW). A oedd yn werth da am arian?

Prif Weinidog yn dweud y bydd yr adroddiad "gerbron aelodau yfory."

Andrew RT Davies
BBC
Andrew RT Davies

Rheilffordd

Peter Black yn gofyn i'r prif weinidog am drydaneiddio'r brif reilffordd rhwng Llundain ac Abertawe.

Y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn disgwyl i Lywodraeth y DU "gadw ei addewid" i drydaneiddio i Gaerdydd erbyn 2017 ac Abertawe erbyn 2018.

Carwyn Jones
BBC
Carwyn Jones

Ailgylchu

Prif Weinidog yn dweud y dylid 'ystyried yn ofalus' cyn unrhyw symudiad i ddidoli wrth ymyl y ffordd ledled Cymru ar gyfer ailgylchu.

Croeso nôl

Bydd Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dechrau am 1.30pm.

Dyma'r

Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd.

Da bo am y tro

Mae'r pwyllgor yn symud i sesiwn breifat.

Ymunwch â ni am 13:30 ar gyfer y sesiwn olaf o gwestiynau i'r Prif Weinidog cyn toriad yr haf.

Rhestr

Dyma

restr o'r deisebau sy'n cael eu trafod.

Deisebau newydd

Mae'r pwyllgor nawr yn trafod deisebau newydd, gan ddechrau gydag "Achubwch Brosiect Filter - Ymgyrch a Sefydlwyd i Atal Pobl Ifanc Rhag Ysmygu ac i'w Helpu i Roi'r Gorau Iddi".

Dirwy

Y Ceidwadwr Russell George yn gofyn a yw rhai rhieni yn talu'r ddirwy gan fod hyn yn dal i fod yn rhatach nag archebu gwyliau y tu allan i'r tymor.

Bethany Walpole-Wroe yn ateb, "mae gennym gofnod o bennaeth yn argymell i riant i wneud hynny a thalu'r ddirwy."

Traeth
BBC

Tymor

Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn gofyn "ydych chi'n meddwl y byddai o fudd pe baem yn cael amseroedd tymor gwahanol yng Nghymru?"

Atebodd Jane Douglas bod y diwydiant twristiaeth yn Nyfnaint a Chernyw wedi adrodd am golled o £87 miliwn i'r economi leol oherwydd y gwaharddiad ar wyliau yn ystod y tymor, fel eu bod bellach yn edrych ar system debyg i Ffrainc lle maent yn amrywio amseroedd tymor.

Jane Douglas
BBC
Jane Douglas

Egluro'r rheoliadau

Gwnaeth Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ddatganiad ysgrifenedig yn egluro'r rheoliadau yn Rhagfyr 2014:

"Dylai penaethiaid ystyried amgylchiadau unigol fesul achos. Bydd amryw o agweddau yn cael eu hystyried, gan gynnwys: pa adeg o'r flwyddyn y gofynnir am wyliau; am ba gyfnod y gofynnir am wyliau ac at ba ddiben; yr effaith a gaiff cymryd gwyliau ar barhad y dysgu, ar amseru arholiadau neu brofion; amgylchiadau'r teulu a dymuniadau'r rhieni; yn ogystal â phresenoldeb cyffredinol a chyflawniad y disgybl.

"Os bydd pennaeth yn penderfynu peidio â chytuno i gais gan riant i fynd â'i blentyn ar wyliau yn ystod y tymor ysgol, a'r rhiant yn penderfynu mynd â'i blentyn er gwaethaf hynny, caiff hyn ei ystyried yn absenoldeb 'anawdurdodedig'."