Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Menter a Busnes.
  2. Eitem gynta'r Cyfarfod Llawn yw cwestiynau i'r gweinidog cyfoeth naturiol.
  3. Y gweinidog cymunedau a threchu tlodi yn ateb cwestiynau'r aelodau.
  4. Dadleuon ar diffibrilwyr mewn manau cyhoeddus, model cadw pwerau a problemau iechyd meddwl.
  5. Dadl fer ar ddyfodol adeiladau capeli yng Nghymru.

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

Dyna ni oddi wrth Senedd Fyw am heddiw.

Ymunwch â ni eto ddydd Mawrth, Hydref 13.

Senedd
BBC

O gapeli i fflatiau

Mr Hedges yn cyfeirio at nifer fawr o gapeli sydd wedi cael eu troi i mewn i fflatiau.

'Rhestru'

Yn ôl

Cadw, "mae capel sydd o ddiddordeb a gwerth arbennig, beth bynnag fo'i oedran, yn gymwys i'w ystyried ar gyfer cael ei warchod drwy'r broses 'restru' ".

Dadl Fer

Y pwnc a ddewiswyd gan Mike Hedges ar gyfer y Ddadl Fer yw 'Dyfodol adeiladau capeli yng Nghymru'.

£587 miliwn

Dywed y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Yng Nghymru, iechyd meddwl yw'r gwariant unigol fwyaf, gan gyfrif am 11.4% o gyllideb y GIG, ac rydym wedi gwarchod cyllideb iechyd meddwl o £587 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf."

Mark Drakeford
BBC

Mae hiraeth arnaf am y wlad

Vaughan Roderick

Golygydd Materion Cymreig y BBC

Ar y cyfan dydw i ddim yn un o'r rheiny sy'n cwyno am allu a safon y gwleidyddion sy'n ein cynrychioli ym Mae Caerdydd. Mae 'na ddigon o ddyffars yn San Steffan ond haws yw cuddio ymhlith chwe chant a hanner o aelodau na chelu'ch hun mewn siambr o drigain.

Ar ôl dweud hynny mae'n amlwg wrth edrych ar yr ymgeiswyr sydd wedi eu dewis ar gyfer etholiad 2016 y bydd 'na fwy o swmp i'r Cynulliad nesaf nac i'r un presennol.

I ddarllen gweddill y blog cliciwch

yma.

Strategaeth

Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yw strategaeth Llywodraeth Cymru.

Iselder ôl-enedigol

Siaradodd Eluned Parrott yn angerddol am ei phrofiad o iselder ôl-enedigol tra'n

arwain y ddadl ar iechyd meddwl ar 25 Chwefror 2015.

'Un o bob pedwar'

Dywed aelod y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott: "Amcangyfrifir bod un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn dioddef o ryw fath o broblem iechyd meddwl o fewn unrhyw flwyddyn benodol - nid yw'r straen ar wasanaethau iechyd meddwl y GIG erioed wedi bod yn uwch."

Eluned Parrott
BBC

Iechyd meddwl

Dadl olaf y prynhawn yw un Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar iechyd meddwl.

Pryderon

Y prif weinidog yn dweud bod tri maes yn peri pryder iddo:

1. Mae'r rhestr o bwerau "o bosibl yn mynd â ni yn ôl i'r cyfnod cyn 1999."

2. Mae "caniatadau gweinidog y goron yn hynafol", meddai, a byddai wedi golygu mai dim ond tri mesur fyddai wedi pasio drwy'r Siambr yn ystod tymor y Cynulliad hwn - byddai pob un arall, meddai, wedi bod "angen caniatâd gweinidog yn Lloegr".

3. Y "profion y byddai'n rhaid eu cymhwyso er mwyn i'r Cynulliad allu newid y gyfraith, yn enwedig cosbau troseddol newydd"

'Setliad parhaol'

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Yr hyn yr wyf am ei weld yw setliad parhaol."

Carwyn Jones
BBC

Y ddeddfwriaeth ddrafft

Dywed y Ceidwadwr Paul Davies "ar hyn o bryd byddwn i'n gofyn i bobl beidio â neidio i unrhyw gasgliadau hyd nes y byddwn mewn sefyllfa i weld y ddeddfwriaeth ddrafft a'r mesur yn cael ei gyhoeddi".

Paul Davies
BBC

Dau Fesur?

Dafydd Elis-Thomas yn awgrymu ffordd ymlaen ynghylch Mesur Cymru - dau Fesur, un nawr ar reoli etholiadau'r Cynulliad, hawliau dros enwi ac ati, a'r gweddill nes ymlaen.

Cynigion Plaid Cymru am fwy o ddatganoli

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno model cadw pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd;
  • Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ar sail model cadw pwerau;
  • Yn gwrthod unrhyw fodel cadw pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y Cynulliad o dan y trefniadau presennol;
  • Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y fframwaith cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o weithredu'r model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a
  • Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona i gyd-fynd â chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.

Comisiwn Silk

Awgrymwyd model 'pwerau neilltuedig' gan ran dau

Comisiwn Silk a oedd yn gomisiwn annibynnol a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Cheryl Gillian ar 11 Hydref 2011.

Adolygodd y comisiwn yr achos dros ddatganoli pwerau cyllidol i'r Cynulliad ac ystyried yr achos dros gynyddu pwerau'r cynulliad.

Cyhoeddodd ei gasgliadau mewn dwy ran.

Pwerau

Mae Senedd yr Alban yn gyfrifol am bob maes polisi yn yr Alban, ac eithrio nifer, fel amddiffyn, sy'n cael eu cadw yn benodol yn San Steffan.

Yng Nghymru, fodd bynnag, mae'r Cynulliad a llywodraeth Cymru ar hyn o bryd dim ond yn gyfrifol am y pwerau hynny sydd wedi cael eu rhoi yn benodol ar eu cyfer.

Datganoli

Dadl Plaid Cymru ar ddatganoli sydd ar y gweill erbyn hyn.

Cofrestru

Dywed y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, Vaughan Gething: "Rwy'n annog unrhyw un sy'n cymryd sylw o'r ddadl heddiw sydd â diffibriliwr sydd heb ei gofrestru gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i wneud hynny."

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn darparu offer a hyfforddiant o dan y

Cynllun Mynediad i'r Cyhoedd i Ddiffibrilydd.

Er cof am Jack Thomas

Mae Mr Hill yn awyddus i gyflwyno deddfwriaeth er cof am

Jack Thomas a fu farw'n sydyn o broblem ar y galon ddwy flynedd yn ôl.

Yn ôl y pwyllgor, ceir tua 8,000 o achosion o ataliad sydyn ar y galon yng Nghymru yn flynyddol, a gall deffibrilwyr allanol awtomatidd gostio rhwng £800 a £1,200 am fodel sylfaenol.

Deiseb

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan Mr Phil Hill, uwch-ymarferydd nyrsio a phresgripsiynydd.

Mae'n galw "ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i sicrhau, fel yn achos offer diffodd tân sylfaenol (e.e. diffoddwyr), bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael ym mhob man cyhoeddus yng Nghymru (wedi'u hariannu gan y GIG, gan elusen neu yn breifat) i sicrhau bod unrhyw un sy'n dioddef ataliad ar y galon yn cael ei drin yn gyflym".

Diffibrilwyr

Mae'r ddadl gyntaf y prynhawn 'ma ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Deddfwriaeth Orfodol i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus.

Banciau bwyd

Rhodri Glyn Thomas yn gofyn "ydych chi'n credu bod banciau bwyd yn awr yn datblygu i fod yn rhan naturiol a pharhaol o gymdeithas yng Nghymru?"

Y gweinidog yn ateb: "Yn sicr, rwy'n gobeithio nad ydynt".

Banc bwyd
BBC

Lesddeiliaid

Yr Aelod Llafur Lynne Neagle yn gofyn am faterion sy'n effeithio lesddeiliaid yn Nhorfaen - gofynodd gwestiwn tebyg ym mis Gorffennaf.

Mae Ms Neagle wedi ymgyrchu ar ran lesddeiliaid yn Nhorfaen ers nifer o flynyddoedd, gan ei bod yn dweud bod llawer wedi cael biliau sylweddol ar gyfer gwelliannau i'w heiddo, yn angenrheidiol o dan y rhaglen

Safon Ansawdd Tai Cymru.

Dywed y gweinidog bod "nifer yr eiddo ar brydles allai gael eu heffeithio yn fach, fodd bynnag yr wyf yn gwerthfawrogi'r arwyddocâd i'r lesddeiliaid dan sylw."

Siambr
BBC

Cymunedau

Mae'r aelodau yn symud ymlaen i Gwestiynau i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Lesley Griffiths.

Tariff Cyflenwi Trydan

Mae nifer o ACau yn sôn am y Tariff Cyflenwi Trydan, sy'n golygu bod unigolion neu grwpiau'n gallu cael eu talu am y trydan adnewyddadwy y maen nhw'n ei gynhyrchu ac yn ei gyflenwi i'r grid.

Solar
PA

'Adar gwyllt'

Chwerthin yn y Siambr wrth i Mr Sargeant ddweud bod "rhai adar gwyllt sy'n cael effaith ar bobl ddiniwed" yng Nghaerdydd wrth ateb cwestiwn ar wylanod.

Siambr
BBC

Mesur yr Amgylchedd

Wrth ateb cwestiwn gan William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ei ohebiaeth gydag ysgrifennydd gwladol Cymru ar Fesur yr Amgylchedd, dywed y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant: "Yn ddiweddar derbyniwyd cadarnhad na fyddai rhan o'r Mesur Amgylchedd yn derbyn y caniatad y gwnaethom gais amdano. "

Carl Sargeant
BBC

Cynllun Taliad Sylfaenol

Russell George yn gofyn am y Cynllun Taliad Sylfaenol ar gyfer ffermwyr a fydd yn talu ffermwyr cymwys i warchod a gwella cefn gwlad.

Mr George yn dweud bod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cydnabod ddoe bod "comisiynydd amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd wedi llacio'r rheolau sy'n golygu y gall aelod-wladwriaethau dalu 70% o daliadau ymlaen llaw."

Mae'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd Rebecca Evans, pam nad yw hithau'n hyderus y gall y taliadau gael eu gwneud heb ddirwyon gan Gomisiynydd yr UE.

Meddai Ms Evans am y rheolau sydd wedi eu llacio, "nid ydynt wedi mynd yn ddigon pell i ni wneud taliadau ym mis Hydref eleni."

Rebecca Evans
BBC

Llifogydd

Yr Aelod Ceidwadol Paul Davies yn gofyn, "Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â llifogydd yng ngorllewin Cymru?"

Ym mis Chwefror cafwyd llifogydd mewn sawl rhan o Gymru.

Aberaeron
BBC
Aberaeron ym mis Chwefror

Croeso nôl

Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant yw'r eitem gyntaf yn y cyfarfod llawn.

Dyma'r

Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd.

Da bo am y tro

Dyna ddiwedd y pwyllgor.

Byddwn 'nôl am y cyfarfod llawn am 1.30.

Barn

Dywed y dirprwy weinidog: "Rwy'n parhau i fod o'r farn na fyddai rhaglen 'un maint yn addas i bawb' fel Twf Swyddi Cymru yn addas ar gyfer pobl hŷn."

Julie James
BBC

Traean

Mae 1.2 miliwn o bobl dros 50 oed yng Nghymru ac mwy na thraean rhwng 50 a 64 oed ddim yn gweithio.

Dyma

ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes.

Tystion olaf

Y tystion olaf yw:

Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Rachel Garside-Jones, Pennaeth Ymgysylltu Polisi Sgiliau.

50 oed

Terry Mills yn galw am fersiwn o Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed.

'Cyfle wedi'i golli'

Mae'r comisiynydd yn cyfeirio at ei

thystiolaeth ysgrifenedig, sy'n dod i'r casgliad: "Mae llawer i'w groesawu yn ymateb Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, mae'r ffaith iddi wrthod rhai argymhellion allweddol yn anffodus ac yn gyfle wedi'i golli i ddarparu gwell cymorth i bobl hŷn sydd eisiau neu angen aros yn y farchnad lafur neu ail-ymuno â hi."

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Y tystion diweddaraf yw:

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Terry Mills, Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth, Heneiddio'n Dda yng Nghymru, Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Tystion
BBC

'Adeiladu pontydd'

Yn ôl Iestyn Davies, ColegauCymru "yr hyn sy'n dda am Twf Swyddi Cymru ar wahân i'r heriau oedran penodol" yw ei bod yn "rhaglen gyfryngu ar gyfer y sector gwirfoddol a'r sector preifat, mae'n adeiladu pontydd ac yn cefnogi unigolion."

Twf Swyddi Cymru
Llywodraeth Cymru