a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  2. Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Y gweinidog gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud datganiad ar fodelau cyflenwi gwahanol.
  4. Trechu Tlodi trwy Gymorth Cyflogadwyedd oedd pwnc datganiad y gweindiog cymunedau.
  5. Datganiad olaf y dydd oedd un gan y dirprwy weinidog iechyd ar achub bywydau rhag sepsis.

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn am heddiw.

Byddwn nôl am y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am 9.00 yfory.

Senedd
BBC

Madredd

Mae madredd (sepsis) yn gyflwr sy'n bygwth bywyd pan fod ymateb y corff i haint yn anafu meinweoedd ac organau.

Gall gael ei achosi gan rywbeth mor syml â thoriad neu brathiad gan bryfed, neu haint fel niwmonia.

Achub bywydau rhag sepsis

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething yw'r eitem olaf, "Achub bywydau rhag sepsis - y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd".

Cadwyni o facteria streptococws pyogenes
Science Photo Library
Cadwyni o facteria streptococws pyogenes

Lansiad

Ar 20 Chwefror 2014 y lansiwyd

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Genedlaethol newydd Cymru (2014-2018).

Mae'r strategaeth yn:

  • cydnabod gwerth darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, a'r rôl y mae'r ddarpariaeth honno'n ei chwarae
  • hyrwyddo cysylltiadau cryfach rhwng darpariaeth gwaith ieuenctid ac addysg ffurfiol
  • nodi'r angen i sefydliadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol gydweithio'n agosach
  • nodi'r angen i gryfhau'n sylweddol y sylfaen dystiolaeth am yr effaith y mae gwaith ieuenctid yn ei chael ledled Cymru.

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol

Mae'r aelodau yn symud ymlaen at Ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: Gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol.

Esgyn

Yr Aelod Llafur Mike Hedges yn dweud nifer o bobl yn ei etholaeth yn Nwyrain Abertawe wedi elwa ar y rhaglen 'Esgyn'.

Nid rhaglen ar gyfer pobl sydd allan o waith dros-dro yw hon - mae ar gyfer pobl sydd wedi bod allan o waith neu heb gael hyfforddiant ers chwe mis neu fwy a bod rhwystrau mawr yn eu ffordd wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i waith.

Dyma enghreifftiau:

  • cartrefi un rhiant sengl
  • cartrefi lle nad oes gan yr oedolion bron dim cymwysterau neu ddim o gwbl
  • pobl heb lawer o brofiad o fyd gwaith
  • unigolion sydd ag anableddau.
Mike Hedges
BBC

Rhaglen newydd

Mae adroddiad i fod i gael ei gyhoeddi ar 21 Hydref 2015 sy'n adolygu trefniadau presennol ar gyfer cymorth gyda chyflogadwyedd a sgiliau hanfodol a darparu tystiolaeth ar ba mor effeithiol ydyn nhw wrth ddylanwadu ar ddatblygiad y rhaglen newydd ar gyfer cyflogadwyedd oedolion.

Cyflogadwyedd

Datganiad gan y gweinidog cymunedau a threchu tlodi sydd ar y gweill, am 'Drechu Tlodi trwy Gymorth Cyflogadwyedd'.

'Y 18 mis nesaf yn allweddol'

Dywed y gweinidog: "Bydd y 18 mis nesaf yn allweddol ar gyfer perthynas y DU â'r UE a'r penderfyniadau a wneir yn dylanwadu ar fywydau pob un ohonom.

"Fel llywodraeth sydd o blaid busnes ac Ewrop, rydym yn credu'n gryf y bydd ein pobl, cymunedau a busnesau ar eu colled o adael y DU."

Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Cymru

Ar ddechrau mis Hydref, lansiodd Ms Hutt gynllun gweithredu rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Cymru, i dynnu sylw at y cyfleoedd i sefydliadau a busnesau gydweithio drwy raglenni ariannu Ewropeaidd 2014-2020.

Mae Cymru'n cymryd rhan mewn pum rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, a elwir hefyd yn Interreg, gan gynnwys rhaglen Iwerddon Cymru.

Y nod yw cynyddu gwerth buddsoddiadau'r rhaglenni i Gymru i €60m - cynnydd o 40%.

Arian
Reuters

Rhaglenni ariannu yr UE

Hynt rhaglenni ariannu yr UE yw testun datganiad y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.

Modelau cydfuddiannol

Comisiynwyd gwaith ar y posibilrwydd o ddefnyddio modelau cydfuddiannol posibl ym maes darparu gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd gan weinidog yr economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth a'r gweinidog gwasanaethau cyhoeddus.

Dyma'r

adroddiad.

Cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn gwneud datganiad ar "fodelau cyflenwi amgen ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: Cynllun gweithredu ar gyfer ymgynghoriad".

Trefniadau'r Cynulliad

Y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes sydd ar y gweill - rhestrir busnes y Cynulliad yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw.

Jane Hutt
BBC

Band eang

Y Ceidwadwr Angela Bruns yn holi ynghylch band eang cyflym iawn yng ngorllewin Cymru gan ddweud "Mae BT yn gwthio yn ôl yr amserlenni" mewn mannau megis Saundersfoot, gan ychwanegu bod busnesau mewn ardaloedd gwledig yn dioddef.

"Rydym yn disgwyl i gyflwyniad band eang cyflym iawn i fod ar amser" meddai'r prif weinidog.

Band eang
BBC

Cwestiynau Llafar

Dyma'r

Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd.

Mesur Cymru

Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn am y Mesur Cymru ddrafft.

Mr Jones yn dweud nad yw Llywodraeth y DU yn newid eu barn am awdurdodaeth ar wahân i Gymru.

Ysgol breswyl

"Doeddwn i ddim wedi cael addysg am ddim," meddai Andrew RT Davies.

Y prif weinidog yn ateb bod arweinydd y Torïaid wedi "mynd i ysgol breswyl".

Addysg i oedolion

Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn cyfeirio at stori Sunday Politics BBC Cymru am doriadau i gyrsiau addysg i oedolion.

Amseroedd aros

Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn gofyn i'r prif weinidog am wahaniaethau rhwng amseroedd aros y GIG yng ngogledd a de Cymru.

Cynllun ar gyfer Coridor yr M4

Eluned Parrott yn gofyn am gynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r Cynllun ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae'n cynnwys:

• Rhan newydd o draffordd 3 lôn rhwng Magwyr a Chas-bach i'r de o Gasnewydd; a

• Mesurau ategol:

- Newid dosbarth y draffordd bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach - fel cefnffordd, gallai alluogi rheoli traffig, diogelwch a threfniadau mynediad diwygiedig;

- Cyswllt rhwng yr M4, yr M48 a'r B4245 - byddai'n darparu mesur lleddfu i Gyffordd 23A a'r rhwydwaith ffyrdd lleol. Byddai hefyd yn darparu mynediad gwell at gyfleusterau parcio a theithio arfaethedig wrth Gyffordd Twnnel Hafren;

- Hyrwyddo'r defnydd o feicio - fel dewis amgen i'r car ar gyfer siwrneiau o hyd at dair milltir, trwy ddarparu seilwaith newydd neu wella'r seilwaith presennol; a

- Hyrwyddo'r defnydd o gerdded - fel dewis amgen i'r car ar gyfer siwrneiau o hyd at dair milltir, trwy ddarparu seilwaith newydd neu wella'r seilwaith presennol.

Cyfarfod Llawn

Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf, wrth gwrs, gyda'r Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Da bo am y tro

Yr aelodau yn pasio cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cyfarfodydd y bwrdd

Dywedodd Andrew RT Davies mai'r teimlad ymysg aelodau'r bwrdd ddoe yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw nad oeddent yn credu bod y prosiect yn cyfateb i'r hyn a ddisgwylid.

Mae Mr Davies yn gofyn "wnaethoch chi ar unrhyw adeg yn y cyfarfodydd bwrdd a fynychwyd gennych, gael y teimlad nad yw aelodau'r bwrdd yn deall yn iawn y wybodaeth yr oeddech yn ei rhoi ger eu bron?"

"Doedd gen i ddim amheuaeth o gwbl" eu bod yn deall meddai Mr Frost.

Andrew RT Davies
BBC
Andrew RT Davies

'Arbenigedd'

Alun Ffred Jones yn gofyn "beth yw eich arbenigedd?" fel cwmni.

Meddai Giles Frost, "Rydym yn arbenigwyr mewn buddsoddiad a chredaf fod y rheswm y cafodd Cronfa Buddsoddiad Cymru mewn Adfywio ei sefydlu yn y ffordd hon oedd oherwydd bod y llywodraeth ar y pryd yn chwilio am arbenigedd buddsoddi. "

Giles Frost
BBC

Tystion newydd

Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at sesiwn dystiolaeth gyda Leo Bedford a Giles Frost, o Amber Infrastructure Ltd.

16 darn o dir

Roedd natur y pecynnau tir yn amrywio o ffermydd yng Ngwynedd i hen safle diwydiannol yng Nghwm Cynon a rhan o barc busnes yng Nghasnewydd.

Ond yr ardal â'r gwerth mwyaf oedd darn 120 erw o dir fferm ger pentref Llysfaen ar gyrion gogleddol Caerdydd oedd wedi bod o dan berchnogaeth gyhoeddus am flynyddoedd.

Cafodd y tir ei werthu am gyfradd amaethyddol o tua £15,000 yr erw ond bedwar mis yn ddiweddarach fe gafodd ei gynnwys yng nghynllun Cyngor Caerdydd ar gyfer tai newydd.

Arweiniodd hynny at ran o'r tir ymysg y mwyaf gwerthfawr yng Nghymru gyda phris potensial o £1 miliwn yr erw.

Mae yna fecanwaith mewn lle sy'n golygu y bydd y trethdalwr yn medru rhannu unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir.

Cafodd 16 darn o dir eu gosod mewn un pecyn i'w gwerthu
BBC
Cafodd 16 darn o dir eu gosod mewn un pecyn i'w gwerthu

'Semanteg'

Yn ôl y cadeirydd Darren Millar, roedd gan bob aelod o'r bwrdd ganfyddiad bod Christopher Munday yn "gyfarwyddwr cysgodol."

Atebodd Mr Munday, "mae'n amhosibl i fod yn gyfarwyddwr cysgodol ar fwrdd sydd heb unrhyw gyfarwyddwyr."

"Semanteg yw hyn" meddai Mr Millar.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dyma fersiwn wedi'i diweddaru o

adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Llys-faen

Roedd un darn o dir wedi ei werthu yn ardal Llys-faen o Gaerdydd
BBC
Roedd un darn o dir wedi ei werthu yn ardal Llys-faen o Gaerdydd

Tystion

Y tystion yw:

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Christopher Munday - Dirprwy Gyfarwyddwr, Datrysiadau Busnes, Llywodraeth Cymru

Gareth Morgan - Dirprwy Gyfarwyddwr, Trafnidiaeth Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru.

Tystion
BBC

Gwerth am arian?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef nad oes modd profi'n bendant fod gwerthiant talp helaeth o dir cyhoeddus dair blynedd yn ôl wedi bod yn werth am arian. Datganiad gan brif was sifil, Owen Evans, i Bwyllgor Cyfrifon y Cynulliad sy'n dweud hynny.

Fe gafodd 15 o safleoedd cyhoeddus eu gwerthu am bron i £22m yn 2012 fel un portffolio, ond mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud y dylai'r gwerthiant fod wedi dod â £15m yn fwy na hynny i'r llywodraeth.

Mewn llythyr i'r pwyllgor mae prif was sifil yn dweud nad oes modd profi'n bendant eu bod nhw wedi cael gwerth am arian, ond mae hefyd yn dweud nad oes modd profi chwaith fod y tir wedi ei werthu yn rhy rhad.

Roedd 15 darn o dir yn rhan o'r portffolio gafodd ei werthu yn 2012
BBC
Roedd 15 darn o dir yn rhan o'r portffolio gafodd ei werthu yn 2012

Cronfa Buddsoddiad Cymru mewn Adfywio

Cafodd Cronfa Buddsoddiad Cymru mewn Adfywio ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2009 fel Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig, wedi'i gofrestru â Thŷ'r Cwmnïau ac o dan berchenogaeth gyfan Llywodraeth Cymru i bob pwrpas.

Cronfeydd strwythurol

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth y pwyllgor graffu ar gyfrifon cyfunol blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.

Mae un rhan o'r cyfrifon yn datgan: "Tua diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaeth y Comisiwn Ewropeaidd hysbysu Llywodraeth Cymru bod taliadau i Gymru yn cael eu hatal mewn perthynas â chronfeydd strwythurol ERDF oherwydd methiannau yn y gwaith archwilio a gyflawnir gan y Tîm Archwilio Cyllid Ewropeaidd (EFAT) mewn perthynas â 2013."

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wrth Senedd Fyw mai cyfnod y gohiriad yn nhaliadau'r ERDF oedd 20 Rhagfyr 2013 i 14 Hydref 2014, ac roedd hyn yn ymwneud â gwerth £35.3m o hawliadau ERDF a oedd wedi'u cyflwyno gan WEFO cyn y gohiriad.

Ychwanegodd y llefarydd: "Wnaeth y mater technegol hwn ddim achosi i Gymru golli unrhyw gyllid yn y pen draw, a doedd dim effaith ar unrhyw brosiectau. Parhaodd WEFO i wneud taliadau i brosiectau tra'r oedd y mater technegol hwn yn cael ei ddatrys. Nid yw'n anarferol i daliadau'r Comisiwn Ewropeaidd i Awdurdodau Rheoli gael eu gohirio dros dro. Mae hyn yn digwydd ar draws llawer o ranbarthau'r Undeb Ewropeaidd - cafodd dros 160 o raglenni rhanbarthol yr UE ledled Ewrop eu heffeithio'r llynedd. Mae'r Comisiwn yn fodlon iawn â'r ffordd y mae cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu rheoli yng Nghymru."

Bore da

"Deuparth gwaith yw ei ddechrau".

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9am.