Crynodeb

  1. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r prif weinidog.
  2. Datganiad ar Gynhyrchu Ynni Lleol.
  3. Y diweddariad ar weithredu gan lywodraeth Cymru ar Lifogydd.
  4. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2014-15.

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

Dyna ni gan Senedd Fyw! Mi fyddwn i yn ol bore fory am naw o'r gloch gyda'r pwyllgor amgylchedd.

Nos da. 

Senedd
BBC

Adroddiad 'cadarnhaol'

 AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts yn dweud bod adroddiad y Comisiynydd yn un adeiladol a chadarnhaol. 

Galw am ddeddfwriaeth

 Darren Millar yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hyn i gyflwyno deddfwriaeth er mwyn amddiffyn ac hybu hawliau pobl hyn. 

Darren
BBC

Adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn

 Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn arwain y ddadl ar Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2014-15.

O Barbados i Arfon

 Alun Ffred Jones yn dweud bod Syr Philip Dilley wedi dychwelyd o Barbados yn gynt nac aeth unrhyw aelod o gabinet Llywodraeth Cymru i ymweld ag Arfon ac Ynys Mon yn dilyn y llifogydd. 

Mi adawodd cadeirydd yr Asiantaeth Amgylchedd ei swydd ar ol mynd ar ei wyliau i Barbados yn ystod y llifogydd ym mis Rhagfyr. Mi oedd wedi cael ei feirniadu am wneud hyn. 

Alun Ffred Jones
BBC

Galw am grantiau

 Yr AC William Powell yn galw ar y gweinidog i rhoi grantiau i bobl sydd yn berchen tai a ffermwyr mewn ardaloedd lle mae yna beryg o lifogydd er mwyn iddyn nhw wneud gwelliannau i'w heiddo. 

Arian ychwanegol ar gyfer llifogydd

 Y Gweinidog yn cyhoeddi £4.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cynllun atal llifogydd ym Mhorthcawl a Bro Morgannwg. 

Rhagfyr: y mis gwlypaf ers cadw cofnod

Mae record y swyddfa dywydd yn dangos bod Prydain wedi cael y mis gwlypaf ers dechrau cadw cofnod ym mis Rhagfyr. 

Mi gafodd tua 150 o eiddo yng Nghymru ei heffeithio o achos y llifogydd ym mis Rhagfyr 2015 meddai'r gweinidog. 

Cymru yn agored i fusnes

 Carl Sargeant: "Mae nhw (cwmniau adnewyddadwy) dal yn hapus i wneud busnes gyda ni yng Nghymru oherwydd agwedd llywodraeth Llafur Cymru achos ni yn agored i fusnes...Yn Lloegr mae nhw yn cau'r drysau i gwmniau adnewyddadwy."

Datganiad llifogydd

 Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant yn gwneud datganiad am gynllun y llywodraeth ar gyfer llifogydd yng Nghymru. 

Carl
BBC

Busnes y cynulliad

 Gweinidog Busnes yn gwneud datganiad ar fusnes y cynulliad. 

Maes Awyr Caerdydd

Prif weinidog yn trydar

Dileu tlodi plant erbyn 2020

 Mae Mr Jones yn dweud bod gyda nhw "strategaeth tlodi plant" a'i bod nhw eisiau dileu tlodi plant erbyn 2020.

 "Mi fyddwn ni yn parhau i symud tuag at gyrraedd y nod yma."  

Tlodi plant

Mae'r AC Plaid Cymru Lindsay Whittle yn gofyn i'r prif weinidog pam ar ol 16 mlynedd yn llywodraethu bod Cymru dal gyda'r lefel uchaf o dlodi plant ym Mhrydain. 

Llythrennedd a rhifeg

Mae'r prif weinidog yn amau honiadau arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams bod gwthio llythrennedd a rhifeg mewn ysgolion yn cael dim effaith. 

Anoddach darogan llifogydd

Y llifogydd diweddar yng Nghymru yw'r pwnc dan sylw gan arweinydd y Ceidwadwyr Andrew R T Davies.

Mae Mr Jones yn dweud bod hi yn dod yn "fwy anodd darogan lle y bydd llifogydd efallai yn digwydd." 

Andrew R T Davies
BBC

Dadl Ewrop

Mae Leanne Wood yn holi am ddadl Ewrop neithiwr rhwng y Prif Weinidog Carwyn Jones ac arweinydd UKIP, Nigel Farage. 

"Fydd eich perfformiad yn helpu neu llesteirio'r ymgyrch?" mae'n gofyn.

Ateb Mr Jones yw "Nai adael eraill i ateb hynny".

Cwestiynau arweinwyr

Bydd y Llywydd, Rosemary Butler yn galw ar arweinydd y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r prif weinidog ar ol cwestiwn 2.  

Croeso nôl

Croeso nôl i Senedd Fyw ar y diwrnod cyntaf o'r tymor newydd wedi gwyliau'r nadolig.

Bydd cwestiynau'r prif weinidog yn dechrau am 1.30pm. 

Dyma rhestr o'r cwestiynau fydd yn cael ei gofyn.  

Senedd
BBC