a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cyllid.
  2. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
  3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Deddfu yng Nghymru.
  4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllido Addysg Uwch.
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llifogydd.
  6. Dadl Fer: Dementia.

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

Dyna'r cyfan gan Senedd Fyw am wythnos arall.

Byddwn nôl Ddydd Mawrth 26 Ionawr.

Senedd
PA

Dadl Fer

Mae'r aelodau wedi cyrraedd yr eitem olaf, sef y Ddadl Fer.

Y pwnc a ddewiswyd gan Lynne Neagle (AC Torfaen) yw "strategaeth genedlaethol ar ddementia i Gymru - ymateb i her iechyd ein hamser."

Rhaglen Datblygu Gwledig

Mae sawl aelod yn cyfeirio at y Rhaglen Datblygu Gwledig,  sy'n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru o dan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hi’n rhaglen fuddsoddi 7 mlynedd sy’n cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n cyfrannu at yr amcanion canlynol:

  • meithrin cystadleurwydd y byd amaeth
  • sicrhau bod adnoddau cynaliadwyedd yn cael eu rheoli’n gynaliadwy, a gweithredu ar hinsawdd
  • sicrhau bod economïau a chymunedau yn cael eu datblygu’n diriogaethol mewn modd cytbwys gan gynnwys creu a chynnal swyddi.

'Angen camau pendant'

Mae'r Ceidwadwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys:

a) archwilio hyfywedd darparu rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;

b) adolygu sut y mae'r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;

c) darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a

d) asesu sut y gall y rhaglen datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd.

Llifogydd

Y llifogydd diweddar yw pwnc ail ddadl y Ceidwadwyr.  

Llifogydd ar yr A55 yng ngogledd Cymru
Llinos Davies
Llifogydd ar yr A55 yng ngogledd Cymru

Cyfarfod Tasglu Dur

Gweinidog yr Economi yn trydar

Athro Diamond

Cafodd crynodeb ffeithiol o'r dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r adolygiad sy'n mynd rhagddo o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.   

Disgwylir adroddiad terfynol erbyn Medi 2016.

Owns o synnwyr?

Dywed Simon Thomas: "Ni allwn fforddio parhau i roi cymhorthdal, i'r un graddau, i fyfyrwyr ble bynnag y maent yn astudio, ac ni allwn fforddio parhau i roi arian i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer ein blaenoriaethau cenedlaethol, ni allwn fforddio y ddau gyda ei gilydd, rydych chi yn gwybod hynny, mae'r llywodraeth yn gwybod, mae'r holl gweinidogion yn gwybod bod ac mae unrhyw aelod meinciau cefn gydag owns o synnwyr yn gwybod hynny".

Simon Thomas
BBC

Cynnig

Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;

2. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.

Dadl y Ceidwadwyr

Cyllido Addysg Uwch yw pwnc dadl gyntaf y Ceidwadwyr.

Angela Burns
BBC

Argraffydd y Frenhines ar gyfer Cymru?

Un argymhelliad yn yr adroddiad yw bod llywodraeth Cymru yn archwilio'n llawn pa mor ymarferol a dichonol fyddai sefydlu Argraffydd y Frenhines ar gyfer Cymru.   

Dywed y pwyllgor: "Gan fod gan y Cynulliad bwerau deddfu llawn erbyn hyn, credwn y dylid rhoi ystyriaeth bellach i sefydlu Argraffydd y Frenhines ar gyfer Cymru."  

Goleuni?

Mae nifer o aelodau yn siarad am y Memoranda Esboniadol a ddefnyddir yn y Cynulliad. 

Dogfen yw hon sy'n cyd-fynd â phob mesur i egluro bwriadau y mesur. 

Dywedodd UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru) wrth y pwyllgor: "Maent yn tueddu i fod yn hir iawn ac yn ailadroddus.

"Er gwaethaf eu hyd, nid ydynt bob amser yn llwyddo i daflu goleuni pellach ar ddarpariaethau mesurau ....."

Adroddiad

I weld copi o’r adroddiad cliciwch yma.

Pedwerydd Cynulliad

Diben yr ymchwiliad gan Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol oedd ystyried sut y mae deddfau yn cael eu gwneud yn y Pedwerydd Cynulliad,

Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mae'r ddadl gyntaf ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch deddfu yng Nghymru.

David Melding yw cadeirydd y pwyllgor.

David Melding
BBC

Mesur Undebau Llafur

Mae'r Cwnsler Cyffredinol Theodore Huckle yn cael ei holi am y goblygiadau i Gymru o'r Mesur Undebau Llafur. 

Ddoe gofynnodd y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews i lywodraeth y DU wneud diwygiadau i'r ddeddfwriaeth fel nad yw gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu heffeithio.

Cyffordd 41

Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn pryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei gymryd ynghylch Cyffordd 41 yr M4. 

Rhwng Awst 2014 a Mawrth 2015, cafodd gyrwyr eu hatal rhag defnyddio Cyffordd 41 i gyfeiriad y gorllewin yn ystod yr oriau brig.

Datrys problemau traffig oedd y bwriad, ond mae yna bryderon mai busnes oedd yn dioddef gydag ofnau hefyd y gallai'r trefniant gael ei wneud yn un parhaol.

Ni ddywedodd Ms Hart pa bryd y bydd penderfyniad terfynol.

Peter Black
BBC

Diwydiant dur

Rhun ap Iorwerth yn gofyn am "addewid bod yr holl gynigion yn cael eu dihysbyddu" ynghylch y diwydiant dur yng Nghymru. 

Dywed Gweinidog yr Economi Edwina Hart, "rydym eisoes yn gweithio ar rai mentrau gyda chwmnïau mawr fel Tata ... mae'n rhaid i ni weithio drwy bopeth y gallwn ei wneud i sicrhau bod gennym ddiwydiant dur yng Nghymru."

Edwina Hart
BBC

'Newyddion gwych'

Roedd y Cyngor Llyfrau wedi bod yn wynebu 10.6% o doriad ar ei chyllideb. 

Dywedodd Mr Skates: "Wrth gwrs mae llymder yn golygu rhai penderfyniadau anodd iawn y byddai neb ar yr ochr hon i'r Siambr yn dymuno eu gwneud. 

"Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwrando'n ofalus iawn ar y sector. 

"Rydyn ni wedi gwrando ar awduron, cyhoeddwyr, aelodau, ac rwy'n falch o ddweud y bydd y gostyngiad gyfer y flwyddyn nesaf yn sero y cant, ni fydd unrhyw doriadau i'r Cyngor Llyfrau." 

 Dywedodd AC Plaid Cymru Elin Jones ei fod yn "newyddion gwych".

Cyngor Llyfrau

Ni fydd grant Llywodraeth Cymru i'r Cyngor Llyfrau yn cael ei dorri wedi'r cwbl, meddai Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Croeso nôl

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yw'r eitem gyntaf.

Unwaith eto, ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad.

Da bo am y tro

Dyna ddiwedd y pwyllgor.

Byddwn nôl ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30pm.

Cyllideb yr iaith Gymraeg

Alun Ffred Jones yn gofyn am "doriad 6% i gyllideb yr iaith Gymraeg". 

Dywed y gweinidog: "Rydym wedi cyfyngu y toriad i gyllideb yr iaith Gymraeg i 5.9%, gan ddyrannu £1.2 miliwn i gefnogi'r Gymraeg yn y gymuned."

Cynllun Lleihau Treth y Cyngor

Dywedodd Ms Hutt bod "307,000 o aelwydydd wedi cael eu cefnogi drwy gynnal hawl i ryddhad treth gyngor yn 2014/15, 15/16, 16/17." 

Ym mis Ebrill 2013, fe wnaeth y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor ddisodli budd-dal treth gyngor yng Nghymru a chafodd ymgeiswyr cymwys eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd.

Toriadau addysg uwch yn 'fygythiad' i'r Coleg Cymraeg

BBC Cymru Fyw

Mae cyrff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymru wedi rhybuddio y gallai toriadau posib i gyllideb addysg uwch gael effaith ddifrifol ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rhagweld na fyddai'r Coleg yn medru datblygu ymhellach mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), tra bod Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei ddyfodol.

I ddarllen gweddill yr erthygl cliciwch yma

Cymorth i Ferched Cymru

Yr Aelod Llafur Christine Chapman ac aelod Plaid Cymru Alun Ffred Jones yn codi pryderon am y toriad i gyllid Cymorth i Ferched Cymru. 

Atebodd Ms Hutt, "mae'r grant gwasanaethau cam-drin domestig wedi cael ei gynyddu £500,000", gan ychwanegu "fel y sefydliad cenedlaethol, bydd Cymorth i Ferched Cymru yn cael mwy nag unrhyw sefydliad arall".

Cymorth i Ferched Cymru
Cymorth i Ferched Cymru

48% o'r gyllideb

Dywed y gweinidog bod 48% o gyllideb llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Gofynnodd yr Aelod Ceidwadol Nick Ramsay a yw'r gweinidog yn fodlon ar y gyfran hon. 

Atebodd Ms Hutt, "mae cyllido'r gwasanaeth iechyd yn ddigonol yn flaenoriaeth allweddol i lywodraeth Cymru." 

Ychwanegodd, "cawsom gyngor annibynnol gan Ymddiriedolaeth Nuffield, fe wnaethon nhw ddweud wrthym faint roedd angen i ni roi i mewn i'r gwasanaeth iechyd ac rydym yn rhoi'r swm hwnnw o arian i mewn."

Iechyd
BBC

Canran gwariant

Tua £15.53 biliwn yw cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16
BBC
Tua £15.53 biliwn yw cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16

Ymchwil Ymddiriedolaeth Nuffield

Mae nifer o'r aelodau yn cyfeirio at adroddiad dylanwadol am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng ngwledydd Prydain a ddywedodd yn 2014 y dylai amseroedd aros yng Nghymru beri pryder ond bod y perfformiad yn gwella mewn meysydd eraill. 

Dywedodd ymchwil Ymddiriedolaeth Nuffield bod yr amseroedd aros yn "drawiadol" ond nad oedd tystiolaeth i ddangos bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn sylweddol waeth na rhannau eraill o'r DU.

Cyllideb Ddrafft

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2016-17 yw'r pwnc dan sylw, gyda  Jane Hutt AC – Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth - o flaen y pwyllgor.

Jane Hutt
BBC

Bore da

Wrth i'r rhew ddechrau dadmer, bydd y Pwyllgor Cyllid yn dechrau am 9am.

Senedd
BBC