a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
  2. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda chwestiynau i'r Gweinidog Cyllid
  3. Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
  4. Dadl gan aelodau unigol ar gau canghennau banc
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Addysg ar waith athrawon cyflenwi
  6. Dadl Plaid Cymru ar reilffyrdd Cymru a'r Gororau
  7. Dadl Plaid Cymru ar werth cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru
  8. Dadl Cyfnod 4 y Mesur Lefelau Staff Nyrsio
  9. Dadl fer gan Kirsty Williams: Pwysigrwydd ysgolion gwledig

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.

Bydd Senedd Fyw nôl ddydd Mawrth 23 Chwefror, ar ôl toriad hanner tymor.

Senedd
BBC

'Enaid cymunedau gwledig'

Ac yn olaf, dadl fer gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams. 

Y pwnc: Pwysigrwydd ysgolion gwledig: Y modd y mae ysgolion yn enaid cymunedau gwledig. 

Kirsty Williams
BBC

O blaid y mesur

 Mae'r ACau yn cymeradwyo y Mesur Lefelau Staff Nyrsio.   

Pwrpas y mesur

Fe wnaeth Kirsty Williams ennill yr hawl i gyflwyno'i chynnig gerbron y Senedd y llynedd.

Fe ddaeth adroddiad Francis i ddiffygion yn Ysbyty Stafford yng nghanolbarth Lloegr i'r casgliad bod prinder staff nyrsio yn ffactor bwysig yn y gofal gwael yn yr ysbyty.

Y diben a nodir ar gyfer y Mesur yw ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwasanaethau iechyd wneud darpariaeth ar gyfer lefelau diogel o staff nyrsio, a sicrhau bod nyrsys yn cael eu lleoli mewn niferoedd digonol i wneud y canlynol:

  • galluogi gofal nyrsio diogel i gael ei ddarparu i gleifion bob amser; 
  • gwella amodau gwaith staff nyrsio a staff eraill; 
  • cryfhau atebolrwydd ynglŷn a diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio a rheoli'r gweithlu. 

Mesur Lefelau Staff Nyrsio

Amser nawr ar gyfer Dadl Cyfnod 4 y Mesur Lefelau Staff Nyrsio. 

Fe fydd yr aelodau yn pleidleisio ar y mesur o fewn tua 15 munud.  

nyrs
BBC

'Profiad o ansawdd uchel'

 Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod angen i bob digwyddiad o bwys gael ei rheoli yn effeithiol a chynllunio trafnidiaeth yn ofalus i sicrhau profiad o ansawdd uchel i ymwelwyr ac i leihau aflonyddwch i drigolion a busnesau lleol.

Eluned Parrott
BBC

Parthau cefnogwyr?

Ar ran Plaid Cymru, mae Bethan Jenkins yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru

2. Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad gyda Chymru'n croesawu'r Gemau hynny yn 2026 neu 2030.

3. Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i Gymru, ar gyfer dynion a menywod.

4. Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i ffarwelio â thîm pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr UEFA.

5. Yn galw am sefydlu 'parthau cefnogwyr' ledled Cymru fel bod y rhai na allant fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi eu tîm gartref.

Bethan Jenkins
BBC

Gwerth digwyddiadau mawr

Y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru yw pwnc ail ddadl Plaid Cymru.  

Cynigion

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod y Cynulliad yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli manyleb a phroses gaffael masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, ac yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai gwasanaethau o'r fasnachfraint honno cyn ei datganoli.

Mae'r blaid hefyd yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau masnachfraint Cymru a'r Gororau yn sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli swyddogaethau trafnidiaeth ac yn niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau.  

Gorsaf Aberystwyth
BBC

Masnachfraint

Masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yw pwnc dadl Plaid Cymru.

Tasglu ar ddarpariaeth athrawon cyflenwi

Dywed Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, "Mae athrawon cyflenwi yn ffurfio rhan sylweddol a phwysig o'r gweithlu athrawon yng Nghymru. Mae'n bwysig bod gennym y strwythurau priodol ar waith i'w cefnogi yn eu rôl." 

Cyhoeddodd ei fod yn sefydlu tasglu i edrych ar ddarpariaeth athrawon cyflenwi yn y dyfodol. 

Disgyblion afreolus

Yr AC Llafur David Rees yn sôn am brofiad rhai athrawon cyflenwi. 

"Rydym wedi gweld nifer o athrawon cyflenwi yn wynebu dosbarthiadau heriol heb ddealltwriaeth o gyd-destun y gwersi.

"Clywaf gan athrawon cyflenwi y gall disgyblion yn aml fod yn afreolus."

David Rees
BBC

Dysgu llai gydag athro cyflenwi

Meddai'r Ceidwadwr Angela Burns AC, "dywedodd 80% o'r disgyblion a ymatebodd i arolwg y pwyllgor eu bod wedi dysgu llai gydag athro cyflenwi nag gyda'u hathro arferol a bod eu hymddygiad yn waeth."

Angela Burns
BBC

Prif faterion

Roedd y prif faterion a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cynnwys: 

defnyddio athrawon cyflenwi o ganlyniad i salwch athrawon a materion cysylltiedig o ran rheoli absenoldeb athrawon parhaol; 

cymorth i Athrawon Newydd Gymhwyso sy'n gweithio fel staff cyflenwi; yr effaith bosibl ar ddeilliannau disgyblion o ganlyniad i ddefnyddio athrawon cyflenwi; 

prinder athrawon cyflenwi cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael hyfforddiant digonol. 

Sut mae'r system yn gweithio?

Fe lenwodd tua 1,500 o bobl arolwg ar gyfer yr adroddiad i greu darlun o sut mae'r system yn gweithio.

Y casgliad oedd bod 30% o ddisgyblion yn cael eu dysgu gan athro cyflenwi gwahanol bob tro.

Dywedodd 80% bod disgyblion yn dysgu llai gyda'r absenoldeb yn arwain at ymddygiad plant yn gwaethygu.

Mae'r pwyllgor wedi dweud bod diffyg data dibynadwy ar gyfer y rhesymau am absenoldebau salwch athrawon.

Roedd hyn yn dilyn adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn ynglŷn ag absenoldeb athrawon, oedd yn amcangyfrif bod ychydig yn llai na 10 y cant o bob gwers yn cael eu cyflwyno gan staff heblaw athro arfer y dosbarth. 

Athrawon cyflenwi: 'Angen gwella' trefn ddarparu

Mae Aelodau'r Cynulliad nawr yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith athrawon cyflenwi. 

Dyw'r system bresennol ddim yn gweithio'n ddigon da ac fe ddylai gael ei hadolygu, meddai'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Un asiantaeth sy' â chytundeb i Gymru gyfan ar hyn o bryd.

Ond mae adroddiad y pwyllgor wedi rhybuddio y dylai'r llywodraeth ystyried modelau eraill ar gyfer llenwi'r bylchau yn sgil absenoldeb athrawon.

addysg
BBC

'Bancio yn fater i lywodraeth y DU'

Gweinidog yr Economi Edwina Hart yn dweud ei bod yn deall y pryderon a godwyd yn y Siambr, ond bod "bancio yn fater i lywodraeth y DU."

Edwina Hart
BBC

Cymunedau gwledig

Darren Millar AC yn dweud bod cymunedau gwledig yn cael eu heffeithio llawer mwy na llawer o gymunedau trefol gan gau canghennau banc. 

Dywed "pan mae cangen yn cau mewn cymuned ble mai dyna'r gangen olaf yn y gymuned honno, mae gan bobl lawer ymhellach i deithio er mwyn cael mynediad at wasanaethau bancio."

Y cynnig

Mae nhw'n cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed os mai'r gangen banc yw'r banc olaf yn yr ardal.

2. Yn galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i benderfyniadau terfynol ar gau gael eu gwneud.

3. Yn galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i benderfyniadau terfynol ar gau canghennau, yn enwedig pan y gangen banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol.

Cau canghennau banc

Nesaf mae dadl gynta'r prynhawn - dadl gan aelodau unigol. Julie Morgan o'r Blaid Lafur, Elin Jones Plaid Cymru, Darren Millar o'r Blaid Geidwadol ac Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol. 

Mae'r ddadl am gau canghennau banc yng Nghymru.

Maer etholedig i Gaerdydd?

AC y Ceidwadwyr Janet Finch-Saunders yn dweud ei bod yn falch o'r ymgyrch i gael maer etholedig i Gaerdydd ac mae hi'n dweud bod cefnogaeth drawsbleidiol i hynny. 

Dywed wrth y gweinidog. "Rwy'n dymuno'r gorau i'r ymgyrch hon. Ydych chi?" 

Ei ateb? "Nid oeddwn yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr Cymreig bellach eisiau gweld meiri etholedig yn lle awdurdodau etholedig."

Janet Finch-Saunders
BBC

Cam-drin domestig

Mae sawl AC yn gofyn i'r gweinidog Leighton Andrews am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru. 

Ymatebodd, "Bydd y broses o weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 yn gwella'r gefnogaeth ac amddiffyniad i ddioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru."

'Rhoi'r gorau i oedi'

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad annibynnol i ddichonoldeb ac ymarferoldeb ynni morlyn llanw yn y DU.

Dywed John Griffiths AC wrth y gweinidog na fyddwn yn gwireddu'r manteision nes bydd llywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i oedi ac yn gwneud ymrwymiad i gefnogi'r prosiect ar gyfer morlyn llanw yn Abertawe. 

Dywed y gweinidog eu bod wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau'r budd mwyaf o'r morlyn arfaethedig yn Abertawe.

Y morlyn arfaethedig yn Abertawe
TLP

Adolygiad o ynni morol

Aled Roberts yn trydar

Ble mae'r gweinidogion?

Jane Hutt yn ateb cwestiynau, ond dim un gweinidog arall yn y Siambr
BBC
Jane Hutt yn ateb cwestiynau, ond dim un gweinidog arall yn y Siambr

Cronfeydd wrth gefn

Alun Ffred Jones yn dweud wrth y gweinidog ei fod yn croesawu'r newidiadau i'r Gyllideb Ddrafft a'r £31m a roddwyd yn ôl i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ond yn gofyn i'r gweinidog o ble ddaeth yr arian. 

"Gallaf sicrhau y bydd hyn yn dod o'r cronfeydd wrth gefn" meddai. 

Dyna hefyd yn ei hateb ynglŷn â'r arian ychwanegol i dri chyngor gwledig.

Alun Ffred Jones
BBC

Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus

Mohammad Asghar yn gofyn pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch y dyraniad yn y gyllideb i'r portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mohammad Asghar
BBC

Croeso nôl

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt fydd yr eitem gyntaf am 1.30pm.  

Hwyl

Dyna ddiwedd y cyfarfod. 

Byddwn nôl ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30pm.

'Neb eisiau torri a chau'

Leighton Andrews yn dweud wrth y pwyllgor, "Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb sy'n ymwneud â llywodraeth leol ym mhob plaid. 

"Nid oes neb yn dod i mewn i lywodraeth leol i dorri a chau. Maent i gyd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Yr wyf yn meddwl ein bod yn deall hynny."

'Drws ar agor'

Leighton Andrews yn dweud, "Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i'r broses hon. Mae ein drws ar agor ar gyfer cyfarfodydd gyda llywodraeth leol ar y mater hwn. 

"Ond nid wyf yn gweld unrhyw gynigion cadarn, ymarferol, ystyrlon gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch y strwythur, swyddogaethau, system neu fap y byddent yn hoffi eu gweld."

map
Llywodraeth Cymru

Y ffordd ymlaen?

Mr Andrews yn dweud ei fod yn amau mai cytundeb Llafur-Plaid Cymru fydd yr unig ffordd i ad-drefnu cynghorau.

'Nid oes byth amser da'

Wrth ateb cwestiwn gan Peter Black AC am y pryderon am gost ad-drefnu, Leighton Andrews yn dweud "Nid oes byth amser da i gael diwygio strwythurol o lywodraeth leol. 

"Mae'n amlwg y bydd yna gost i hyn. Rydym wedi bod yn onest am hynny. "

'Tyfu i fyny'

Mr Andrews yn dweud bod angen i bobl "dyfu i fyny" ynghylch ad-drefnu llywodraeth leol.

Meddai Alun Davies wrth Mr Andrews:  "nid dweud wrth bobl i 'dyfu i fyny' yw'r ffordd orau o gyrraedd consensws".

Diffyg cefnogaeth wleidyddol?

Y cyn-weinidog Llafur Alun Davies yn dweud wrth Leighton Andrews bod diffyg cefnogaeth wleidyddol i'r cynigion gan Lywodraeth Cymru. Atebodd y gweinidog, "Cawn weld ym mis Mai."

Alun Davies
BBC

'Arbedion sylweddol'

Pan ofynnwyd iddo pa mor hyderus ydyw y byddai awdurdodau lleol yn gallu ymdopi â'r costau ychwanegol a roddir arnynt gan y broses uno, mae Leighton Andrews yn dweud ei fod yn hyderus gan fod yr holl astudiaethau, meddai, yn nodi y bydd arbedion sylweddol o'r broses.

Leighton Andrews
BBC

Egwyl

 Bydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, o flaen y pwyllgor ymhen rhyw 10 munud.  

'Mwy o amser na threchu Ffasgaeth'

Alun Davies AC yn dweud bod diffyg arweinyddiaeth gan lywodraeth leol ynghylch y ffordd ymlaen. 

Steve Thomas, Prif Weithredwr CLlLC yn ymateb,  "Y broblem sydd gennym yw ei bod yn dair blynedd ers cychwyn y ddadl ac mae wedi bod yn amser hir yn dod i hyn. 

"Ac yr wyf wedi dweud yn gyhoeddus ein bod yn cymryd mwy o amser i ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru nag i drechu Ffasgaeth yn Ewrop. "

Steve Thomas
BBC

'Prin o arian'

Phil Murphy, Cynrychiolydd Grŵp y Ceidwadwyr, yn dweud bod "awdurdodau lleol mor denau yn awr, mor brin o arian, nid yw'r syniad o orfod talu am ad-drefnu yn apelio o gwbl."

Phil Murphy
BBC

Cyflawni

Dyfed Edwards yn dweud bod rhai cynghorau yn cytuno ynghylch y nifer arfaethedig o gynghorau (8 neu 9). Mae eraill, meddai, yn anghytuno. Ond pwysleisiodd mai'r prif gwestiwn yw beth ydym yn gobeithio ei gyflawni gyda gwasanaethau cyhoeddus.

Dyfed Edwards
BBC