Crynodeb

  1. Pwyllgor Menter a Busnes.
  2. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda chwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
  3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
  4. Dadl ar yr adroddiad i'r Cynulliad ar weithgareddau’r cynrychiolwyr o Gymru ar Bwyllgor Rhanbarthau’r UE.
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar roi'r grym i unigolion a grwpiau cymunedol fynd i'r afael â materion o bwys lleol.
  6. Dadl Fer: Darparu ar gyfer canolbarth Cymru .

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

Dyna ni am heddiw.

Bydd Senedd Fyw nôl ddydd Mawrth - hwyl!

Senedd
BBC

Darparu ar gyfer canolbarth Cymru

Ac yn ola heddiw Dadl Fer gan yr AC Russell George.

Y pwnc dan sylw - Darparu ar gyfer canolbarth Cymru - pam fod angen signal ffonau symudol cyffredinol i drawsnewid economi canolbarth Cymru.

'Dylai Cymru a'r DU barhau i fod yn aelodau o'r UE'

Ar welliant Aled Roberts yn cynnig bod y Cynulliad  yn credu y dylai Cymru a'r DU barhau i fod yn aelodau o'r UE ac yn penderfynu meithrin deialog gadarnach gyda sefydliadau Ewropeaidd fel Pwyllgor y Rhanbarthau, pleidleisiodd 43 o blaid a phedwar yn erbyn. 

Gwella democratiaeth leol?

Er bod dadl y Ceidwadwyr yn croesawu'r ymgyrch am refferendwm ar gyflwyno maer etholedig ar gyfer Caerdydd, dywed Julie Morgan o'r blaid Lafur: 

 "Yn hytrach na gwella democratiaeth leol, rwy'n credu y byddai maer etholedig yn tynnu sylw oddi ar y materion sy'n rhaid i lywodraeth leol fynd i'r afael â nhw ar hyn o bryd."

Julie Morgan
BBC

Ceidwadwyr Cymreig

Am yr awr nesa Dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhoi'r grym i unigolion a grwpiau cymunedol i fynd i'r afael â materion o bwys lleol;

2. Yn croesawu'r ymgyrch i sbarduno refferendwm ar gyfer cyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol i Gaerdydd ac yn nodi'r rhan y gallai rôl debyg ei chwarae ledled Cymru o ran gwella democratiaeth, atebolrwydd a'r broses o wneud penderfyniadau ar y lefel leol;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i feithrin cenedl o ddinasyddion gweithgar a gwybodus sy'n cymryd rhan ac ymgysylltu drwy:

(a) cyflwyno refferenda ar gynlluniau arfaethedig i uno cynghorau a chynyddu treth gyngor awdurdodau lleol uwchlaw trothwy penodol fel bod unigolion yn cael mwy o lais mewn perthynas â sut y caiff penderfyniadau eu gwneud yn eu hardal;

(b) cyflwyno pwerau newydd i wella'r broses o gynnwys unigolion mewn penderfyniadau lleol allweddol, fel yr hawl gymunedol i wneud cais a'r hawl gymunedol i herio, oll o dan agenda hawliau cymunedol; a

(c) gostwng y trothwy ar gyfer deiseb i sbarduno refferendwm ar feiri a etholir yn uniongyrchol mewn ardal."

'O ddifrif'

Alun Davies yn gobeithio y bydd ACau "yn dechrau i drafod o ddifrif y berthynas sydd gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd." 

 "Rwy'n gobeithio ... byddwn yn cydnabod pwysigrwydd yr UE i ni, nid yn unig mewn termau ariannol neu drafodion, ond i ni, pwy ydym ni fel cymuned, fel gwlad, fel pobl ac fel cenedl."

'Aelodaeth o'r UE yn hanfodol'

Mae'r adroddiad gan Bwyllgor y Rhanbarthau yn nodi bod:

Aelodaeth o'r UE yn hanfodol bwysig i Gymru; mae mynediad at y farchnad sengl yn cynnal swyddi yng Nghymru, caiff deddfwriaeth yr UE mewn meysydd fel cyflogaeth a'r amgylchedd effaith gadarnhaol ar ansawdd bywydau yng Nghymru ac, yn y pendraw, mae Cymru yn fuddiolwr net o aelodaeth yr UE; cawn fwy o arian o'r UE nag yr ydym yn ei gyfrannu tuag at aelodaeth ohoni.

Mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn caniatáu ar gyfer llais i Gymru ar y materion hyn. Er ein bod yn cydnabod y cyfyngiadau sydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau fel sefydliad, mae'n rhan bwysig o ddylanwad Cymru ym Mrwsel, ac fel y mae'r adroddiad hwn dangos - drwy waith agos ag ASEau Cymru, partneriaid Tŷ Cymru, a sefydliadau eraill ym Mrwsel y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, mae Aelodau Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau yn gwneud y gorau o'r dylanwad a'r budd yn ein gwaith ar Bwyllgor y Rhanbarthau.

Gallwch weld mwy am yr adroddiad yma.

Baneri Ewrop
Reuters

Pwyllgor y Rhanbarthau

Nawr dadl ar yr adroddiad i'r Cynulliad ar weithgareddau cynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau, yr Undeb Ewropeaidd.

AC Pontypridd Mick Antoniw sy'n cyflwyno'r ddadl.

Targedau

Dywedodd Simon Thomas mai un o bryderon y pwyllgor oedd nad oedd y cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ar lefel lleol yn darparu y fath o gynnydd a fyddai'n cwrdd â thargedau oedd gan y llywodraeth yn genedlaethol. 

Simon Thomas
BBC

Ymchwiliad

Ystyriodd y Pwyllgor y meysydd canlynol fel rhan o'i ymchwiliad:

A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a'r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru;

A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau'r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg);

Trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn);

A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill (er enghraifft polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw: iaith byw; Dechrau'n Deg; polisi cynllunio);

A yw canlyniadau'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl (er enghraifft disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel).

Gallwch ddarllen mwy am adroddiad y Pwyllgor yma.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Ar y funud mae dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Dim cwestiynau

Heddiw oedd y cyfle olaf i'r aelodau holi'r Cwnsel Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad cyn yr etholiad ond ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

Roedd chwerthin yn y Siambr pan gyhoeddwyd hyn! 

Aston Martin

Mae'r gweinidog yn ateb cwestiwn brys ar gyhoeddiad Aston Martin y bydd yn adeiladu ei gar newydd yn ne Cymru, gan greu 750 o swyddi.

Bydd y DBX crossover yn cael ei wneud yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.

Aston Martin
Aston Martin

A55

Gofynnir i Edwina Hart am y gwaith gwella ar yr A55 yn y gogledd a'r hyn sy'n cael ei wneud i darfu ar bobl cyn lleied â phosibl. 

Atebodd, "Mae'n bwysig bod gwybodaeth bob amser ar gael o flaen llaw ar wefan Traffig Cymru ac ar arwyddion ochr y ffordd,

"Yr wyf yn deall pa mor anghyfleus y gall fod, ond mae'n ymwneud â diogelwch a dibynadwyedd y rhwydwaith, sef fy mhryder sylfaenol."

Edwina Hart
BBC

Velothon

Dywed William Graham nad oedd Velothon y llynedd yn llwyddiant o ran anghyfleustra i fusnesau a phobl leol, ac mae'n gofyn i'r gweinidog am sicrwydd y bydd y flwyddyn hon yn wahanol. 

Ymatebodd Edwina Hart, "O ganlyniad i'r pryderon a fynegwyd yn y siambr am yr effaith andwyol, cafwyd trafodaethau manwl rhyngom ni a'r awdurdodau lleol dan sylw".

Ychwanegodd y bydd deialog mwy agored a thryloyw gyda busnesau a chymunedau. 

Fe wnaeth tua 15,000 o seiclwyr amatur a phroffesiynol gymryd rhan yn y ras, gyda lonydd ar gau i geir am ryw wyth awr yn ystod y dydd.

Velothon
RB-Create

Croeso nôl

Does neb yn gallu cwyno nad ydynt yn gweld digon o Edwina Hart ar Senedd Fyw heddiw. Hi fydd yn ateb  cwestiynau yn gyntaf. 

Hwyl

Dyna ddiwedd y cyfarfod. 

Fe fydd Senedd Fyw yn dychwelyd am 1.30pm ar gyfer y cyfarfod llawn.

Trosglwyddo adnoddau

Rhun ap Iorwerth yn gofyn a fyddai cyllid digonol yn dod ochr yn ochr â datganoli cyfrifoldebau. 

Atebodd Edwina Hart,  "Mae'n bryder i ni, beth fydd yn digwydd o ran trosglwyddo adnoddau.

"Fel llywodraeth mae pethau eraill wedi eu trosglwyddo i ni ac mae bob amser wedi bod yn frwydr i gael y trosglwyddiad priodol o ran adnoddau. "

'Ofnadwy'

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas, "Dydw i erioed wedi clywed unrhyw beth mor ofnadwy am ddatganoli trafnidiaeth, oherwydd mae'r hyn yr ydych yn ei ddweud yn mynd at wraidd y drafodaeth ar ddatganoli gyfan, gan fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu mewn modd sy'n ymddangos iddo neu iddi yn rhoi atebolrwydd i lywodraeth y DU, yn gallu dweud na all llywodraeth Cymru symud ymlaen ar hyd llwybr datganoli ... "

Yr Arglwydd Elis-Thomas
BBC

Trydaneiddio

Gofynnir i Edwina Hart am y blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd. 

Atebodd, "Mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o ran rheilffyrdd ac mai llywodraeth y DU sydd â'r brif gyfrifoldeb ar faterion penodol. 

"Yn amlwg, mae 'na faterion allweddol - un ohonynt yw sicrhau trydaneiddio i lawr i Abertawe. "

Trydaneiddio
GWR

Gweinidog yr Economi

 Craffu ar waith Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart sydd ar y gweill erbyn hyn.

Yn ymuno â hi y mae James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru.  

Tystion
BBC

'Nifer fawr o'n rhaglenni yn gweithio'

Julie James yn dweud bod ymagwedd y llywodraeth i'r ddau grŵp oedran yn wahanol iawn. 

 "Rydym yn falch iawn o'r gostyngiad ac rydym yn meddwl ei fod yn dangos fod nifer fawr o'n rhaglenni yn gweithio. 

"Er eu bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn, byddai pawb yn hoffi eu gweld yn gwneud gwahaniaeth yn gyflymach."

Addysg, gwaith neu hyfforddiant

Mae William Graham yn dweud nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi gostwng yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae dros 10,000 o bobl ifanc 16-18 oed a dros 46,000 19-24 oed yn dal heb fod mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant ar ddiwedd 2015. 

Mae'n gofyn i Julie James beth arall y gall y llywodraeth ei wneud.

Fframwaith

Mae'r aelodau yn trafod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, sef  "prif gyfrwng Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)".  

Tystion

(chwith i dde) Ella Davidoff, Pennaeth Datblygu Polisi a Rhaglenni, Llywodraeth Cymru; Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg; Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid, Llywodraeth Cymru
BBC
(chwith i dde) Ella Davidoff, Pennaeth Datblygu Polisi a Rhaglenni, Llywodraeth Cymru; Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg; Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid, Llywodraeth Cymru

Bore da

Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes ar fin dechrau.

Fe fydd yr aelodau yn dechrau drwy graffu ar waith y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James AC.

Senedd
BBC