a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd.
  2. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda chwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol.
  3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.
  4. Dadl ar adroddiaiad y Pwyllgor Deisebau ar ei adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus.
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gau ysbytai a cholli gwasanaethau.
  6. Dadl Plaid Cymru ar driniaethau canser.
  7. Dadl Fer: Bwyd da i bawb - cyflawni'r nod arlwyo " Bwyd am Oes" yn ysgolion Cymru.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

Dyna'r cyfan am heddiw.

Bydd Senedd Fyw nôl ddydd Mawrth 8 Mawrth.

Senedd
BBC

'Trawsnewid arferion bwyta'

Meddai Jenny Rathbone, "Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'n rhwymedigaeth i genedlaethau'r dyfodol i drawsnewid arferion bwyta y genedl trwy gael ein holl blant a phobl ifanc i gael perthynas iach gyda bwyd. 

"Fel arall bydd y GIG yn fethdalwr."

Jenny Rathbone
BBC

Bwyd am Oes

Yn olaf heddiw, y Ddadl Fer.

Y pwnc a ddewiswyd gan Jenny Rathbone (AC Canol Caerdydd) yw "Bwyd da i bawb: cyflawni'r nod arlwyo 'Bwyd am Oes' yn ysgolion Cymru".

Gwella perfformiad

Mae Elin Jones hefyd yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

a) gwella'r perfformiad mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu cadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio i gael eu profi;

b) cyflwyno cronfa triniaethau newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a

c) sicrhau bod pob claf canser yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.

Dadl Canser

Mae Elin Jones yn cynnig bod y Cynulliad:

yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.

Yn nodi bod amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn Lloegr a'r Alban.

Yn gresynu at yr anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau canser.

Canser
Science Photo Library

'Celwyddgi'

David Melding yn rhoi cerydd i Lynne Neagle o'r blaid Lafur ar ôl iddi alw y Prif Weinidog David Cameron yn gelwyddgi. 

 "Dydych chi ddim yn mynd i alw unrhyw un yn y siambr yn gelwyddgi," meddai.

'Gwarthus'

Wrth ymateb i ddadl y Ceidwadwyr, dywed y Dirprwy Weinidog Vaughan Gething, "rydym wedi clywed ymosodiad gwirioneddol gywilyddus ar ein gwasanaeth iechyd gwladol gan y Ceidwadwyr mewn naws a chynnwys. 

 "Mae dweud bod GIG Cymru yn darparu gwasanaeth trydydd byd yn wirioneddol warthus."

'Bywiogi'r ysbyty gymunedol'

Mae Kirsty Williams yn cyfeirio at Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru yn 2014 a oedd yn galw am "ail-rymuso a bywiogi'r ysbyty gymunedol a gwasanaethau yn y gymuned".

Mae'n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd mewn cymunedau ledled Cymru.  

Generadur wrth gefn

Mae'r Dirprwy Lywydd yn ymddiheuro am y trafferthion technegol.

Maen nhw nawr yn defnyddio'r generadur wrth gefn.

Dirprwy Lywydd
BBC

Trydar yn y tywyllwch

Mae nifer o aelodau wedi bod yn trydar ers i'r pwer trydan dorri yn y Senedd ac effeithio ar y cyfarfod llawn. Dyma rhai o'r disgrifiadau: 

Leighton Andrews:  Mae'r toriad trydan yn y Senedd wedi chwythu plwc y cyfrifiaduron a'r clociau. 

Llyr Gruffydd: Dwi wastad wedi dweud nad oes gan y Cynulliad ddigon o bwer! 

Darren Millar: Drama yn y Senedd wrth i doriad trydan ddod â'r sesiwn i stop. Mae'n tynnu'r gwynt allan o hwyliau'r dathliadau i nodi 10 mlynedd yr adeilad. 

O diar

Rhagor o drafferthion technegol.

Y Siambr
BBC

Golau nôl 'mlaen

Cafwyd toriad trydan yn yr ardal leol, ond mae'r aelodau nawr nôl wrthi.

Egwyl

Mae 'na broblemau technegol yn y siambr ar hyn o bryd, felly mae egwyl fer. 

'Darparu gwasanaethau yn lleol'

Cyflwynwyd y gwelliant yma gan Elin Jones.

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth nesaf Cymru gychwyn a chyflwyno cynllun ar gyfer cynnydd sylweddol yn nifer y meddygon fel y gellir darparu gwasanaethau yn lleol.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Nesa, dadl y Ceidwadwyr Cymreig a gyflwynwyd gan Paul Davies yn cynnig:

bod y Cynulliad yn gresynu at y ffaith bod nifer o ysbytai yng Nghymru wedi cael eu cau neu wedi wynebu colli gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.

Ac yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i warantu na fydd unrhyw ysbytai'n cael eu cau yn ystod y pumed Cynulliad.

'Drws i'r Cynulliad'

Meddai aelod o'r pwyllgor, Bethan Jenkins,  "rwy'n meddwl bod y system ddeisebau yn ddrws i'r Cynulliad.. rydym yn cyfarfod cymaint o bobl wahanol".

Bethan Jenkins
BBC

17 o argymhellion

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud 17 o argymhellion, gan gynnwys 

"y dylid ystyried caniatàu i system ddeisebau ar-lein y Cynulliad gael ei defnyddio i gasglu llofnodion ar faterion sydd heb eu datganoli sy'n ymwneud â Chymru. Fodd bynnag, dim ond deisebau sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu bwerau Gweinidogion Cymru ddylai gael eu cyfeirio i'r Pwyllgor Deisebau i'w hystyried".

Gallwch weld yr adroddiad yn llawn yma.

Mae Llywydd y Cynuuliad wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn dweud ei bod  "braidd yn amheus o’ch argymhelliad y gallai system ddeisebau’r Cynulliad gael ei defnyddio ar gyfer deisebau ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli".  

'Dylanwadu'n uniongyrchol'

Fe gafodd y Pwyllgor Deisebau ei sefydlu ar 15 Mehefin 2011. Ei rôl yw ystyried yr holl ddeisebau derbyniadwy a gyflwynir gan y cyhoedd. Rhaid i'r deisebau fod ar faterion y mae gan y Cynulliad y pŵer i weithredu arnyn nhw. Mae'r broses ddeisebau yn "galluogi'r cyhoedd i amlygu materion ac i ddylanwadu'n uniongyrchol ar waith y Cynulliad".

Adolygiad o ddeisebau cyhoeddus

Eitem nesa'r prynhawn yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ei adolygiad o ddeisebau cyhoeddus, wedi ei harwain gan gadeirydd y pwyllgor, WIlliam Powell AC.

'Diogelu'r cyllid ar gyfer addysg bellach'

Wrth ymateb i Mike Hedges, dywed y Dirprwy Weinidog Julie James "rydym wedi diogelu'r cyllid ar gyfer addysg bellach ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac mae'n fwy hanfodol nag erioed i ganolbwyntio ar yr adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr ac i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio mor effeithlon â phosibl. "

Addysg Bellach
BBC

Dymuno'r gorau

Nifer o bobl yn dymuno'r gorau i'r Gweinidog Addysg Huw Lewis oherwydd na fydd yn sefyll yn Etholiad y Cynulliad ym mis mai.

Mae Mr Lewis wedi cynrychioli etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni ers etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999.

Ariannu y Coleg Cymraeg

Elin Jones yn trydar

Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Mae'r aelodau nawr yn gofyn cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis.

Huw Lewis
BBC

Amseroedd aros

Y Ceidwadwr Darren Millar yn herio'r gweinidog dros amseroedd aros, gan gymharu Cymru a Lloegr. 

"Pam ddylai pobl yng Nghymru oddef amseroedd aros hirach? Beth ydych chi'n ei wneud i leihau'r amseroedd aros?" 

Mae'r gweinidog yn ymateb, "Rwy'n siomedig eich bod unwaith eto yn cam-gynrychioli y ffeithiau wrth siarad am ein gwasanaeth iechyd gwladol. 

"Mae awgrymu bod un o bob saith o bobl ar restr aros pan rydych yn gwybod nad yw hynny'n wir, rwy'n poeni am eich lefel o onestrwydd yn y ddadl hon."

'Heriau'

Vaughan Gething yn ymateb i Kirsty Williams drwy ddweud ei fod yn  cydnabod yr 'heriau' ynghylch mynediad at ofal iechyd ar y diwrnod neu apwyntiadau ar unwaith.

Cyfaddefa, "Mae nifer sylweddol o bobl yn ei chael yn her i dderbyn apwyntiadau ar y diwrnod."

Anhawster i gael apwyntiad

Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn dweud bod "llawer o bobl yn cael anhawster i gael apwyntiad arferol yn ystod oriau arferol. 

"Pa gamau a gymerwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd diwethaf i sicrhau y gall pobl gael apwyntiad gyda meddyg teulu yn amserol? "

Kirsty Williams
BBC

'Yn gyson â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig'

Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Vaughan Gething sy'n ateb y cwestiynau. 

Mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf mae'n dweud bod "pwysau staffio yn Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyson â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. 

"Mae camau yn eu lle i fynd i'r afael â'r heriau a sicrhau staffio cynaliadwy".

Vaughan Gething
BBC

Pwysau staffio

Mae Llyr Gruffydd yn gofyn ynghylch "pwysau staffio" ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Croeso nôl

Cwestiynau ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sydd gyntaf am 1.30pm.

Rosemary Butler yn croesawu llywydd senedd Gwlad yr Ia i oriel gyhoeddus y Siambr. Mae hi'n dweud ei bod yn bleser croesawu aelod o'r senedd hynaf yn y byd.

Senedd
BBC

Hwyl

Dyna ddiwedd y pwyllgor. 

Byddwn nôl ar gyfer y cyfarfod llawn. 

Casgliadau gwastraff

Wrth ateb cwestiynau am gasgliadau gwastraff, dywed Carl Sargeant "bod yn rhaid i ni ddechrau meddwl yn ofalus iawn am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn casglu eu gwastraff, am drafod â'r cyhoedd, am symud i'r lefel nesaf."

Casglu sbwriel
BBC

Cynllun Taliad Sylfaenol

"Mae problemau o hyd gyda thaliadau i ffermwyr" meddai'r  Ceidwadwr Janet Howarth, gan gyfeirio at y Cynllun Taliad Sylfaenol.

Ond yn ôl Jenny Rathbone o'r blaid Lafur, mae Cymru wedi perfformio'n well na gwledydd eraill gyda 88% o ffermwyr wedi eu talu.

Janet Howarth
BBC

'Gweledigaeth gyffredin'

Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, hefyd yn sôn am yr heriau sy'n wynebu'r sector, sef "gwneud y diwydiant yn fwy proffidiol, yn fwy gwydn, a reolir yn broffesiynol a moderneiddio'r diwydiant. 

"Ac er mwyn mynd â ni i'r lle hwnnw rydym wedi gwneud gwaith ar y cyd, y fframwaith strategol ar gyfer amaethyddiaeth a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r undebau a chyrff eraill mewn amaethyddiaeth,  i rannu gweledigaeth gyffredin ac ymrwymiad i weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i gyflawni'r nodau hynny. "

Rebecca Evans
BBC

'Her enfawr'

Pan ofynnwyd iddo am yr heriau mawr ar gyfer y dyfodol, dywed Carl Sargeant "un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu unrhyw lywodraeth yw newid yn yr hinsawdd .... mae ganddo effaith sylweddol. 

"Rydym yn gweld hynny yn lleol ... pocedi o lifogydd, ond mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio ynni, y ffordd yr ydym yn rheoli carbon, mae'r effaith fyd-eang yn mynd i fod yn her enfawr i unrhyw lywodraeth. " 

Tro olaf

Dyma'r tro olaf y bydd Carl Sargeant a Rebecca Evans yn ymddangos gerbron y pwyllgor cyn yr etholiad.

Carl Sargeant a Rebecca Evans
BBC

Tystion

Dyma'r tystion:

Carl Sargeant AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Rebecca Evans AC, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd a'r Môr.

Bore da

Bydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn dechrau am 9.30, ac yn cynnal sesiwn gyda gweinidogion ar etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad . 

Senedd
BBC