a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  2. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Cyfnod 4 y Mesur Casglu a Rheoli Trethi
  4. Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2016-17
  5. Cyfnod 3 Mesur Iechyd y Cyhoedd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

Bydd y bleidlais derfynol ar Fesur Iechyd y Cyhoedd yr wythnos nesaf. 

Os bydd y mesur yn cael ei basio, gallai'r gwaharddiad ar e-sigaréts mewn rhai mannau cyhoeddus ddod i rym erbyn gwanwyn 2017 ar y cynharaf. 

Bydd Senedd Fyw nôl yfory ar gyfer y Pwyllgor Menter a Busnes.

Senedd
BBC

Triniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

Gan gyfeirio at yr adran ar "driniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff", dywed Darren Millar "Dydw i erioed wedi defnyddio Google gymaint  mewn cyfarfod i ymchwilio i dermau neu wedi gweld cynifer o luniau erchyll".

Darren Millar
BBC

Ymestyn cyrhaeddiad y gwaharddiad

Mae ACau wedi pleidleisio i ymestyn cyrhaeddiad y gwaharddiad i gwmpasu nifer o leoliadau eraill, gan gynnwys siopau, llyfrgelloedd cyhoeddus, a lleoliadau adloniant megis sŵau a sinemâu. 

Mae tafarnau nad ydynt yn gweini bwyd yn cael eu heithrio'n benodol, fel y mae sefydliadau rhyw, casinos, siopau betio, canolfannau hapchwarae oedolion, mangreoedd gyda thrwydded bingo, manwerthwyr arbenigol o e-sigaréts, ac ystafelloedd ymgynghori fferylliaeth.

Gwelliannau'r llywodraeth

Mae gwelliannau'r llywodraeth ar gyfer "mangreoedd ac ardaloedd di -ddyfais mewnanadlu nicotin ychwanegol", gan gynnwys meysydd a chanolfannau chwaraeon, a meysydd chwarae cyhoeddus, yn cael eu pasio.

Cymeradwyo gwelliant gan Darren Millar

Mae'r aelodau yn cymeradwyo gwelliant gan Darren Millar heb wrthwynebiad:

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o weithrediad darpariaethau’r Bennod hon i’r graddau y maent yn gymwys i’r defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin, gyda golwg ar geisio asesu eu heffaith ar iechyd pobl Cymru ac yn benodol eu heffaith ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin gan blant ac ar ysmygu gan blant. 

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad erbyn diwedd y cyfnod o bedair blynedd fan bellaf.  

Gwelliant Kirsty Williams

Mae'r gwelliant gafodd ei gynnig gan Kirsty Williams, fyddai wedi taflu holl gynlluniau y Llywodraeth ar e-sigarennau, wedi cael ei guro, o 35 pleidlais i 25. 

Mae'n debygol y bydd y cyfyngiadau yn dod i rym, ac mae'r drafodaeth ar y cynigion eraill yn dal i gael eu trafod.

'Blacmelio'

Dywedodd Jocelyn Davies o Blaid Cymru, "Dwi'n credu ein bod ni wedi cael ein blacmelio i gefnogi'r Llywodraeth ar e-sigarennau, drwy ddefnyddio pethau positif eraill o fewn y mesur na fyddai unrhyw un yn y siambr yn mynd yn eu herbyn."

Jocelyn Davies
BBC

Seidr dan byst clwb rygbi

Dywedodd Kirsty Williams "dyw'r gweinidog heb allu fy mherswadio...fod pobl yn defnyddio teclynnau mewnanadlu nicotin fel dechreubwynt i ddefnyddio tobacco." 

Ychwanegodd, "fe fydd pobl ifanc yn arbrofi...roeddwn i yn arfer yfed potel o seidr dan byst clwb rygbi Bynea."

Cyfnod 3 Mesur Iechyd y Cyhoedd

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn camu'n ôl rhag gweithredu cynllun i wahardd y defnydd o e-sigarets mewn pob man cyhoeddus caeedig yng Nghymru.

Yn hytrach na gwneud hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygiadau i'r Mesur Iechyd Cyhoeddus fydd yn golygu gwahardd ar e-sigarets mewn mannau cyhoeddus penodol - fel ysgolion, bwytai a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Mark Drakeford ym mis Rhagfyr er ei fod o blaid gwahardd e-sigarets mewn pob man cyhoeddus, roedd yn deall fod ganddo gyfrifoldeb fel aelod o'r llywodraeth heb fwyafrif i "greu cytundeb".

e-sigarets
Getty Images

Cymeradwyo'r Gyllideb Derfynol

Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn dweud eu bod hi'n dymuno gallu dweud fod yr 'amser caled drosodd', ond mae hi'n ofni bydd rhagor o doriadau o fewn cyllideb San Steffan yr wythnos nesaf.

Dywedodd y Ceidwadwr Nick Ramsay fod y newidiadau i'r gyllideb derfynol yn 'rhy ychydig yn rhy hwyr'. 

Mae Alun Ffred Jones o Blaid Cymru yn croesawu'r ffaith fod nifer o doriadau oedd i fod i ddigwydd i addysg uwch, yn cael eu dileu. 

Cafodd y gyllideb gefnogaeth 28 aelod, gyda 5 aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn atal eu pleidlais, a 22 (y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru) yn erbyn.

Dadl ar Ail Gyllideb Atodol 2015-16

Ar 9 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi penderfynu peidio bwrw mlaen â rhai o'r toriadau oedd wedi eu cynllunio ar gyfer addysg uwch a chynghorau.

Roedd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn wynebu £42m yn llai, oedd yn rhyw draean o'i gyllideb.

Mewn dadl ar gyllideb ddrafft 2016-17, dywedodd y gweinidog cyllid, Jane Hutt, wrth Aelodau Cynulliad na fydd £31m o'r toriadau hynny'n digwydd bellach.

Bydd Powys, Ceredigion a Sir Fynwy yn rhannu £2.5m yn ychwanegol ar ôl cael toriadau o dros 3% yn wreiddiol.

Arian
BBC

Cymeradwyo'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi

Mae'r aelodau yn cymeradwyo'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi.  

Mae’r mesur yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), a’i brif waith fydd casglu a rheoli trethi datganoledig.

Cafodd y cynllun i ddangos sut y bydd Cymru'n casglu a rheoli ei threthi ei hun am y tro cyntaf ers 800 mlynedd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ar 23 Medi 2014.

Mae pwerau dros drethi busnes, treth stamp a threthi tirlenwi yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.

Dyma fydd y trethi cyntaf i gael eu pennu a'u codi yng Nghymru ers y 13eg ganrif.

'Digwyddiad nid proses'

Meddai Prif Weinidog Cymru, "fy ngobaith yw y bydd cyflwyno'r setliad mewn un ddogfen yn galluogi pobl yng Nghymru i gael dealltwriaeth lawer cliriach o ddatganoli a sut mae'n gweithio. 

"A byddai galw'r lle hwn yn Senedd yn gymorth i ddealltwriaeth".

Ychwanegodd, "Rydym wedi treulio gormod o amser yn siarad am gwestiynau cyfansoddiadol. Gadewch i ni yn awr wneud datganoli Cymreig yn ddigwyddiad, nid yn broses".

Fersiwn wahanol o fesur drafft Cymru

Mae Carwyn Jones wedi gwneud datganiad i esbonio pam iddo gyhoeddi fersiwn wahanol o fesur drafft Cymru gyda'r nod o ddarparu ateb cyfansoddiadol "sefydlog, hir ei barhad".

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai cynigion Llywodraeth Cymru yn "osgoi blynyddoedd o ymrafael cyfansoddiadol" yn y dyfodol.

Daw hyn wedi i'r Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb ddweud y bydd "newidiadau sylweddol" i fesur drafft Cymru yn dilyn beirniadaeth o'i gynnwys.

Hedfan rhwng Ynys Môn a Chaerdydd

Yn ôl y gweinidog cyllid Jane Hutt, mae llywodraeth Cymru mewn cyswllt gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil a LinksAir, oherwydd bod cwsmeriaid dalodd am docynnau i hedfan rhwng Ynys Môn a Chaerdydd gyda LinksAir yn dal i ddisgwyl am eu harian yn ôl, er i'r cwmni roi'r gorau i gynnal y gwasanaeth ddiwedd Ionawr.

LinksAir
BBC

Aston Martin

Mae'r swm gafodd ei wario i ddenu Aston Martin i dde Cymru yn gyfrinachol, oherwydd natur fasnachol y cytundeb, yn ôl y Prif Weinidog.

Aston Martin
BBC

Torri addewid etholiad?

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn dweud ei bod hi'n poeni am ymateb 'diystyriol' y Prif Weinidog i adroddiad yr ombwdsmon. 

Yn ôl Ms Wood, does dim un feddygfa yn cynnig apwyntiadau ar ôl 6:30pm yn ardaloedd y pedwar bwrdd iechyd, gan dorri addewid etholiad. 

Atebodd Mr Jones drwy ddweud fod mwy o feddygfeydd yn agored dros y penwythnos a hefyd fin nos ers 2011.

Leanne Wood
BBC

'Ddim yn dystiolaeth o fethiant systemig'

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn dweud fod angen ei gwneud hi'n glir i ddarpar-ddoctoriaid bod cefnogaeth ddigonol, a hyfforddiant, ac yn y blaen, yn bodoli yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. 

 Yn ôl y Prif Weinidog, doedd yr achosion yn adroddiad yr ombudsman "ddim yn dystiolaeth o fethiant systemig".

Kirsty Williams
BBC

Galw am ymchwiliad manwl

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, yn galw am ymchwiliad manwl i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, un tebyg i ymchwiliad Keogh yn Lloegr. 

Yn ôl Prif Weinidog Cymru mae hynny yn awgrym dadleuol gan Mr Davies, o gofio'r streic doctoriaid iau yn Lloegr.

Andrew RT Davies
BBC

'Rhestrau aros yn lleihau'

Llyr Gruffydd yn holi am y gwariant ar staff asiantaeth y GIG. 

 Mae'r prif weinidog yn dweud bod rhestrau aros yn lleihau.

Gofal tu allan i oriau y GIG

Y Ceidwadwr Darren Millar yn gofyn beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â phryderon am ofal tu allan i oriau y GIG a godwyd yn adroddiad yr ombwdsmon heddiw. 

Y Prif Weinidog yn dweud bod polisïau llywodraeth Cymru yn "fwy cynhwysfawr" na chynllun sgoriau-ar-y-drysau y Torïaid i ysbytai.

Carwyn Jones
BBC

Croeso nôl

Bydd hwn yn glamp o gyfarfod llawn, yn bennaf oherwydd Cyfnod 3 Mesur Iechyd y Cyhoedd.  

Hwyl

Mae'r pwyllgor nawr yn cwrdd yn breifat. 

Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau yn gynharach heddiw, am 1pm.

Cofnodion ynghylch gwrthdaro buddiannau

"Rwy'n cytuno yn llwyr y gallem fod wedi cael, ac y dylem fod wedi  cael, lawer gwell cofnodion ynghylch gwrthdaro buddiannau posibl a chanfyddedig" meddai Mr Price.

'Dydw i ddim yn darllen sgript'

"Gallaf weld eich bod yn darllen sgript, rhowch eich barn i ni" meddai cadeirydd y pwyllgor, Darren Miller. 

"Dydw i ddim yn darllen sgript, dwi'n darllen adroddiad", ymatebodd James Price.

James Price
BBC

Ddim yn unol â’r prosesau busnes arferol

Mae Aled Roberts yn cyfeirio at ddatganiad yr archwilydd: "Oherwydd yr amserlen dynn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y cais, daeth y swyddogion i’r casgliad nad oedd digon o amser i gynnal cyfarfod llawn o Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol Llywodraeth Cymru, yn unol â’r prosesau busnes arferol".

Mae Mr Roberts yn gofyn pwy wnaeth y penderfyniad hwnnw a pham. 

Ymatebodd Mr Price, "Nid wyf yn gwybod pwy, rhywun ar lefel cyfarwyddwr". Ychwanegodd bod swyddogion "dan bwysau dro ar ôl tro i sicrhau bod Cymru yn rhagori ar rannau eraill o'r DU" o satbwynt denu buddsoddiad.

Aled Roberts
BBC

'Dim rôl ymgynghorol' gan Yr Athro Syr Chris Evans

O ran rheoli gwrthdaro posibl, "doedd dim rôl ymgynghorol" gan Yr Athro Syr Chris Evans meddai James Price.

Roedd y pwyllgor yn trafod cofnodion cyfarfod Pwyllgor Buddsoddi Rheolwr y Gronfa ar 26 Mehefin 2013:

 ‘Gofynnwyd i’r Athro Syr Chris Evans, yn rhinwedd ei swydd fel ymgynghorydd ar Wyddorau Bywyd i Lywodraeth Cymru (LlC) roi barn ar y cwmni [ReNeuron] fel y gallai LlC ddod i benderfyniad ynghylch dyfarnu grant i’r cwmni yn ystod proses ddiweddar o ymgeisio am grant. O’r herwydd, teimla ef [Syr Chris Evans] gan ei fod wedi cynghori14 LlC ar un agwedd, y dylai ymneilltuo o bob trafodaeth ar fuddsoddiad gan y Gronfa ac ni fydd yn bresennol yn y cyfarfod, yn cyfrannu at drafodaethau, yn gwneud argymhellion nac yn pleidleisio ar y mater.’   

Oedi yn y broses wirio diwydrwydd

"Nid dyna beth y byddwn yn ei ddisgwyl" meddai Mr Price wrth drafod sylw yr archwilydd y "cynhaliwyd y broses wirio diwydrwydd dyladwy hwn ryw bedwar mis wedi hysbysu’r tendrwr llwyddiannus o ganlyniad y broses".

Profion
BBC

'Dim cofnodion cyfoes'

Aled Roberts yn tynnu sylw at gasgliad Archwilydd Cyffredinol Cymru:

"Yr oedd y penderfyniad i gaffael rheolwr i’r gronfa wedi ei ddogfennu’n wael, heb unrhyw gofnodion cyfoes i ddangos y byddai contractio am reolwr i’r gronfa yn rhoi gwell gwerth am arian na recriwtio staff arbenigol gan Cyllid Cymru ei hun".  

'Proses o ddysgu'

Meddai James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru  - "mae sefydlu a rhedeg y gronfa wedi bod yn broses o ddysgu i bawb".

James Price
BBC

Archwilwyr wedi beirniadu

Credir bod y gronfa wedi creu mwy 'na 150 o swyddi yng Nghymru, ond mae archwilwyr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru a'i changen fuddsoddi, Cyllid Cymru.

Yn ôl y prif archwilydd, Huw Vaughan Thomas: "Mae'r adroddiad yn cydnabod amryw o wendidau yn y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru a Chyllid Cymru sefydlu'r gronfa a'u bod wedi bod yn ddiofal yn ei gweithredoedd ar y dechrau."

Microsgop
BBC

Bore da

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9.00.

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru sydd o dan chwyddwydr yr aelodau.

Mae archwilwyr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am y ffordd y cafodd y gronfa fuddsoddi wyddonol gwerth £50m ei rheoli.

Cafodd y gronfa ei sefydlu yn 2012 i geisio denu mwy o gwmnïau meddygol a fferyllol i Gymru.

Yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru, dylai gweinidogion fod wedi mynd i'r afael â gwrthdaro buddiannau yn "fwy cadarn".

Senedd
BBC