a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cliciwch uchod i wrando ar sylwebaeth Radio Cymru
  2. Gêm gyntaf Cymru yn un o'r prif gystadlaethau ers 1958
  3. Y gic gyntaf yn Bordeaux am 17:00 (amser Prydain)
  4. Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

A dyna ni...

BBC Cymru Fyw

Diolch am ddilyn llif byw arbennig Cymru Fyw, a diolch i sêr Brynchoch United am eu sylwadau craff drwy'r gêm. 

Cofiwch, fe fyddwn ni gyd yn ôl ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr ddydd Iau. 

Mwynhewch y dathlu heno...

Aneurin yn llongyfarch

Twitter

Mae'r actor Aneurin Barnard yn un o lawer o enwogion sydd yn dathlu heno.

View more on twitter

Disgrifiad cynnil....

Mae cyfaill Carwyn Tywyn yn taro'r hoelen ar ei phen.

View more on twitter

Pawb yn hapus

BBC Cymru Fyw

Mae'r dathlu wedi dechrau yn ardal y cefnogwyr yn Bordeaux!

Hwre!
bb

Dal heb gyffwrdd y llawr...

Twitter

Ton o gefnogwyr

Twitter

Fe awn i beintio Bordeaux yn goch #wal #cymru

Fe awn i beintio Bordeaux yn goch #wal #cymru

Miloedd yn gwylio

BBC Cymru Fyw

Mae'n debyg bod rhyw 3,000 i 4,000 o bobl yn yr ardal gefnogwyr yng Nghaerdydd heddiw. Tybed faint o'r brifddinas oedd yn Ffrainc yn gwylio'r fuddugoliaeth?

Gyda'n gilydd nawr......

Twitter

Am barti....

Twitter

Roedd hi'n barti i bawb neithiwr yn Bordeaux mae'n debyg. Falle y bydd na chwant dathlu ar un neu ddau yno heno hefyd...

View more on twitter

Hogia Blaenau wedi'i gneud hi!

BBC Cymru Fyw

Mae Cymru Fyw yn falch o weld fod Mike Pugh a'r criw o Flaenau Ffestiniog wedi ei gwneud hi i'r gêm heddiw - er gwaethaf eu problemau gyda'r campyr-fan ddoe.

hogia
bbc

Pwllheli'n dathlu!

Twitter

Cam o'r tywyllwch....

BBC Cymru Fyw

Argraffiadau un cefnogwr o Gymru yn ardal y cefnogwyr yn Bordeaux wedi'r fuddugoliaeth:

Ymateb un cefnogwr yn Bordeaux

I gadarnhau...

Twitter

Chi o ychydig ffydd....

Canmol y cefnogwyr

Twitter

Dyfyniad y dydd?

S4C

Owain Tudur Jones yn sylwebu ar S4C: 'Tydan ni ddim yma i gymryd rhan, rydan ni yma i gymryd drosodd!' 

ffans
bbc

Diolch gan Bale!

Twitter

Cymru mewn 'sefyllfa wych'

BBC Cymru Fyw

Mae gohebydd BBC Sport Gary Lineker wedi dweud fod y canlyniad heddiw yn gosod Cymru mewn safle gwych i symud i'r 16 olaf - ac mae'n rhoi dipyn o bwysau ar Loegr wrth iddyn nhw wynebu Rwsia ym Marseilles mewn llai nag awr.

Pum cynnig i Gymro!

BBC Cymru Fyw

Fe gafodd Gareth Bale bum cynnig o flaen gôl Slofacia heddiw - ond roedd chwaraewyr eraill - Ben Davies yn enwedig - yn serennu i Gymru.

bale
Getty Images

George Huws

Dwi'n fflabyrgasted. 

Dydi'n fflabyr i rioed wedi bod mor gasted!

Caerdydd yn dathlu!

Cefnogwyr balch yn dathlu yn yr ardal gefnogwyr yng Nghaerdydd....

Caerdydd
BBC

Beiciwr bodlon!

Twitter

Tecwyn Parri

Ma hyd yn oed Jean yn crio!

Neges gan Joe....

Twitter

Cefnogwyr yn dathlu

BBC Cymru Fyw

Gorfoledd yn ardal y cefnogwyr yn Bordeaux!

Ymateb yr ail gol yn Bordeaux

Arthur Picton

Dwi'n mynd i orwedd i lawr mewn stafall dywyll!

Wali Tomos

HAL-eliwia!!!!!!!!

Na, does dim angen geiriau....

Twitter

Oes angen geiriau?! #cymru #WAL #EURO2016 #WALSVK #Ewro2016

Oes angen geiriau?! #cymru #WAL #EURO2016 #WALSVK #Ewro2016

Tri phwynt bendigedig!

BBC Cymru Fyw

Canlyniad anhygoel i Gymru - a thri phwynt gwych i ddynion Chris Coleman!

Cam mawr ymlaen cyn y gêm yn erbyn Lloegr ddydd Iau nesaf.

Ydi Bordeaux yn barod am barti?!

y tim
Reuters

Buddugoliaeth!

Dathlwch! Mwynhewch pob eiliad o orfoleddu! Mae Cymru wedi ennill!!!!!!!!!!!!!

cym
BBC

Cerdyn i Skrtel

Cerdyn Melyn

Cerdyn melyn - y pumed heddiw i Slofacia.

cerdyn
bbc

Cyngor da!

Twitter

Pedwar munud...

BBC Cymru Fyw

yn ychwanegol...daliwch ati!

cefnogwyr
BBC Sport

Degawdau ers Pele

Twitter

Yn ôl cyflwynydd Match of the Day, y chwaraewr dwytha i sgorio yn erbyn Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol oedd Pele.

View more on twitter

Un funud fach....

BBC Cymru Fyw

Munud sydd i fynd....C'mon Cymru!

Criw Camp Lawn wedi cyffroi'n lân

Twitter

Ramsey'n gadael

Eilyddio

Ramsey'n cael ei eilyddio - Jazz Richards ymlaen yn ei le.

Cic gornel

BBC Cymru Fyw

Bale yn rhedeg trwy'r canol gan gydweithio gyda Ramsey ond eu hymdrech yn gorfodi cic o'r gornel....

Dim yn un wych - a'r chwarae'n parhau....

Agos!

BBC Cymru Fyw

Cyfle i Slofacia - y bel oddi ar y postyn. Munudau hir o'n blaen tan y chwiban olaf!