a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cymru yn gorffen ar frig y tabl
  2. Rwsia 0 - 3 Cymru (sgôr terfynol)
  3. Slofacia 0 - 0 Lloegr (sgôr terfynol)
  4. Ramsey (11'), Taylor (20') a Bale (67') yn sgorio i Gymru
  5. Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Welwn ni chi yno!

BBC Cymru Fyw

Fe fydd y llif byw, gan gynnwys cymeriadau Bryncoch United yn dychwelyd ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn.

Adieu de Toulouse, ont un bon voyage à Paris!  

paris
BBC

Cymru ar ei ffordd i Baris

Euro 2016

Adroddiad o'r gêm a sicrhaodd le i Gymru yn rownd yr 16 ola' Euro 2016.

dathlu
pa

Neges o Fae Caerdydd

Euro 2016

Cyfarchion gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

View more on twitter

Hughes: Timau am osgoi Cymru

Euro 2016

Mae cyn reolwr Cymru Mark Hughes wedi dweud y bydd y timau eraill am osgoi Cymru yn y rownd nesa. 

"Maen nhw wedi dangos heno fod ganddyn nhw ddigon o opsiynau i boeni unrhyw un," meddai. 

Mark Hughes
bbc
Mark Hughes

Mae'r #WALRUS yn cael parti!

Twitter

Wali Tomos

Negas i'f peffa 'Af y Mafc' o ychydig ffydd 'na. Gan y gwifion y ceif y gwif Dylan Jôs!!!!!! A mi fudish i basan ni'n ennill y gfŵp 'ndo. Dacia! bechod na foish i bfes afni!!!!! Dwi'n mynd i ddathlu. Nos da bawb.

Llinell Llion

Twitter

Perfformiad arbennig

BBC Radio Cymru

Perfformiad gorau erioed gan Gymru medd Malcolm Allen ar Radio Cymru. 

Heno'n brawf o ysbryd y garfan medd y sylwebydd Dylan Griffiths.

Ystadegyn pwysig gan 'Davey Boy'

Twitter

Cymru am Byth!! @FAWales @BBCWalesSport

Cymru am Byth!! @FAWales @BBCWalesSport

Ysbrydoliaeth Bale?

Twitter

Mae'n anodd iawn dadlau gyda'r dadansoddiad craff yma!

View more on twitter

Ymlaen â'r daith

BBC Cymru Fyw

Mae gennych chi bum niwrnod i fwcio awyren neu dren. 

Fe fydd Cymru yn chwarae ym Mharis ddydd Sadwrn.

Ond mae'r parti eisoes wedi dechrau yn Toulouse.

CREDWCH O!

Euro 2016

Gyda Zombie Nation yn atseinio yn y stadiwm, mae'r emosiwn yn ormod i nifer. 

Mae'r cefnogwyr, y chwaraewyr a'u rheolwr yn dathlu yng nghornel Cymru o'r cae, wrth i'r newydd dorri fod y gêm yn St Etienne yn gorffen yn ddi-sgor. 

 MAE CYMRU YN GORFFEN AR FRIG GRŴP B!!!

cefnogwyr
EPA

A DYNA NI...

MAE CYMRU YN MYND YMLAEN I ROWND YR 16 OLAF.

'DI'R HOGIA DDIM YN BAROD I DDOD ADRA ETO!'

cymru
ap

Rwsia 0-3 Cymru

Euro 2016

Dau funud o amser ychwanegol yn weddill yn Toulouse, ond mae gan Loegr a Slofacia bum munud o amser ychwanegol.

Rwsia 0-3 Cymru

'Does 'na ddim llawer o danwydd ar ôl yn nhanc chwaraewyr Rwsia wrth i ni gyrraedd munudau ola'r gem. Amddiffynwyr Cymru yn rhwystro unrhyw gyfle bosib. 

rwsia
Getty Images

Rwsia 0-3 Cymru

Eilyddio

Yr arwr yn gadael y cae.

Gydag wyth munud o'r chwarae yn weddill mae Gareth Bale yn gadael y cae i atsain gorfoledd cefnogwyr Cymru. 

Simon Church sy'n dod ymlaen yn ei le.

Hir yw pob ymaros

Euro 2016

Mae'n tawelu 'chydig yn ardal y cefnogwyr yn Toulouse, wrth i gefnogwyr Cymru gyfri'r munudau cyn diwedd y gêm. Y sgôr yn parhau yn gyfartal yn gêm Lloegr v Slofacia. 

cefngowyr
BBC

Peidiwch temtio ffawd! (Ond ydi, mae hi)

Twitter

⚽️🎶 "It's just like watching Brazil... like watching Brazil..." C'mon Cymru!!! #wal #EURO2016

Arthur Picton

Ia iawn. Fodlon rwan???

Wali Tomos

Musty Picton?

George Huws

Ai Wol.

Rwsia 0-3 Cymru

Eilyddio

Coleman yn cyflwyno newid i dîm Cymru, y gweision ffyddlon, y ddau Joe i ffwrdd a Dave Edwards ac Andy King ymlaen.

joe
Reuters
joe
Reuters

Tecwyn Parri

Do Wali.    

Wali Tomos

Fudish i do. 3 - 0. Gaf ac Af!!!!!!!!

Rwsia 0-3 Cymru

Euro 2016

Cymru yn ei morio hi, Lloegr dal yn gyfartal. Cymru yn y rownd nesa ac ar hyn o bryd fel y tîm ar frig Grŵp B. 

Y bar yn boncyrs!

Twitter

Rwsia 0-3 Cymru

Eilyddio

Rwsia dan bwysau mawr rwan.

Cyflwyno eilydd arall, Alexander Samedov ymlaen yn lle Fyodor Smolov.

Ond a ydi hi eisoes rhy hwyr?

Rwsia 0-3 Cymru

Gareth Bale yn cyrraedd record Dean Saunders o 22 gôl i Gymru, ac yn dod yn brif sgoriwr Euro 2016 hyd yma.

bale
Getty Images

GÔÔÔÔÔÔÔÔÔLLLLL!!

GARETH BAAAAAAAAAAAAAAAAAAAALE

TAIR GEM - TAIR GÔL

gol
bbc

Cŵn sy'n cefnogi Cymru, rhif 237.

Twitter

CYMRU CYMRU CYMRU!🌼🐾⚽️❤️

CYMRU CYMRU CYMRU!🌼🐾⚽️❤️

Pethau'n poethi

Cerdyn Melyn

Y dyfarnwr yn cosbi Pamel Mamev am drosedd ar Joe Allen. 

 Cic gosb i Gymru, ond Joe Ledley yn methu cyrraedd y bel mewn pryd.

Arthur Picton

Hawyr bach! Penci!!

Wali Tomos

A finna fwan hefyd.

Arthur Picton

Perthyn agos!!!! Erbyn 'ddo ddeud, fedrai weld y tebygrwydd !

Wali Tomos

Dyw! Dwi newydd ddefbyn negas gin Malcolm Allen. Dyma fo i chi. 'Hei Wol? Ma' Joe Allen yn rhyw fath o berthyn i mi 'sdi. Ro'dd ewyrth i gnithar tadcu Joe 'de yn hannar brawd i nith cefndar 'y nhad'. Diddofol 'de! Diolch Malc.

Rwsia 0-2 Cymru

Dim lwc i Bale y tro yma, y gic anodda hyd yma mae'n siwr. ond daw cyfle am gic rydd arall cyn diwedd y gêm?

Rwsia 0-2 Cymru

Cic Rydd

Trosedd gan Golovin ar Joe Allen.

Bale i gymryd y gic rydd.

Rwsia 0-2 Cymru

Cyfle arall i Bale sgorio o'r asgell chwith, ond y gôl-geidwad yn gwneud digon i'w rwystro gyda'i droed. Trydedd gic cornel i Gymru yn yr ail hanner.

Newid arall i Rwsia

Eilyddio

Capten Rwsia, Roman Shirokov, yn cael ei dynnu oddi ar y cae, a chwaraewr canol cae CSKA Moscow, Aleksandr Golovin yn dod ymlaen. Y gôl-geidwad, Igor Akinfeev yw arweinydd Rwsia ar y cae rŵan.

Ioan yn hapus

Twitter

Mae'r actor Ioan Gruffudd yn amlwg yn hapus gyda'r perfformiad hyd yn hyn.

View more on twitter